Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill yn Seiliedig ar Ardal (OECMs)
ac Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur (NREAs)

30erbyn30 yng Nghymru

Argymhellion cychwynnol Grŵp Arbenigwyr Cymru ar gyfer y Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal ac Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur 30 erbyn 30

Crynodeb gweithredol
Mae cydnabod a datblygu 'Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal' (OECMs) yn ganolog i amcan y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) a'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) bod o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a moroedd y byd yn cael eu gwarchod a'u rheoli er lles bioamrywiaeth erbyn 2030. Mae OECMs yn rhan bwysig o ymateb Cymru i'r ymrwymiad hwn ynghyd a'r bwriad sy'n benodol i Gymru i ddatblygu 'Ardaloedd Enghreifftiol ar gyfer Adfer Natur' (NREAs).

Fel rhan o Archwiliad Dwfn Llywodraeth Cymru o Fioamrywiaeth, mae'r adroddiad hwn yn esbonio ym marn y grŵp arbenigwyr hynt y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma i wireddu'r ymrwymiad 30 erbyn 30. Roedd pum thema i'n gwaith:

1. gwerthuso'r diffiniadau o OECMs a NREAs ac ystyried sut y byddent yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru yn unol â chanllawiau rhyngwladol ond yng nghyd-destun ein deddfwriaeth ni.
2. asesu sut y gellid gwneud ardaloedd gwahanol yng Nghymru yn OECMs neu NREAs.
3. gofyn beth arall sydd angen ei wneud i gyrraedd y targed 30 erbyn 30 ac atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
4. ystyried y cyfle i gynnal treialon.
5. trafod sut y byddai OECMs ac NREAs yn cael eu hariannu.

Mae OECMs yn cael eu diffinio'n rhyngwladol fel unedau daearyddol nad ydynt yn ardaloedd gwarchodedig ac sy'n cael eu llywodraethu a'u rheoli i warchod y fioamrywiaeth sydd ar y safle mewn ffordd gadarnhaol a chyson at yr hirdymor ynghyd â swyddogaethau a gwasanaethau’i ecosystem a gwerthoedd eraill cysylltiedig fel gwerthoedd diwylliannol, ysbrydol ac economaidd-gymdeithasol.

Roedd y grŵp arbenigwyr yn gyfarwydd â Chanllawiau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN)1, sy'n disgrifio’r meini prawf ar gyfer cydnabod OECMs posibl. Yn benodol, gallai ardaloedd o'r fath ddarparu natur fel prif amcan, amcan 'eilaidd' neu amcan 'ategol' cyn belled: i) nad ydynt eisoes yn ardaloedd gwarchodedig; (ii) y ceir ynddynt y nodweddion hanfodol fel unedau daearyddol a'u bod yn cael eu llywodraethu'n gyson a'u rheoli'n effeithiol er gwarchod bioamrywiaeth y safle; iii) y gallant barhau i'r hirdymor trwy gytundebau cyfreithiol neu ffurfiol gyda pherchennog y tir iv) bod dyletswydd adrodd arnynt i ganolbwyntio ar dargedau cadwraeth yn hytrach na defnydd cynaliadwy. Gallai OECMs posibl droi’n OECMs ymgeisiol unwaith y ceir cydsyniad yr awdurdod llywodraethu h.y., sefydliad llywodraethol, unigolyn, llywodraeth neu sefydliad brodorol, sefydliad dielw, corfforaeth, grŵp cymunedol, neu gorff arall neu gyfuniad o gyrff a gydnabyddir fel rhai sydd ag awdurdod a chyfrifoldeb i wneud penderfyniadau ynghylch amcanion a rheolaeth y safle.

Nid yw OECMs yn ddynodiadau sy'n rhoi amddiffyniad cyfreithiol, ond maent yn cael eu 'cydnabod' pan fyddant yn bodloni'r meini prawf ac yn dangos canlyniadau er lles bioamrywiaeth. Mae hyn yn awgrymu proses fesul cam lle mae ardaloedd posibl yn cael eu gwneud yn ardaloedd ymgeisiol ac yna eu cydnabod yn OECMs.

Gall OECMs gydbwyso'r cyfle i gefnogi adferiad natur yn ehangach yng Nghymru, er enghraifft trwy'r targedau adfer natur sy'n cael eu datblygu yn erbyn heriau sy'n adlewyrchu i) newydd-deb y cysyniad; ii) ansicrwydd ynghylch sut y gall grwpiau lleol, rhanddeiliaid a chyrff y llywodraeth bennu OECMs; iii) yr angen i ddatblygu mecanweithiau cyllido neu bolisi clir ar gyfer OECMs i sicrhau canlyniadau er lles bioamrywiaeth yn y tymor hir. Mae gan OECMs y cyfle i ddangos sut i leihau’r pwysau lleol ar fioamrywiaeth ynghyd â rheolaeth gadarnhaol dros natur heb ddeddfwriaeth neu amddiffyniad newydd.

Gallai mecanweithiau ar gyfer pennu OECM gyfuno strategaethau o'r brig i lawr, mentrau cymunedol o'r gwaelod i fyny neu gydnabyddiaeth newydd o werth cadwraethol ardal. Gallai'r Map Rhwydwaith Natur neu'r Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth sydd eisoes wedi’u nodi ein helpu i'w dewis, tra gallai egwyddorion 'ychwanegedd' ategu dulliau presennol o adfer natur. Beth bynnag yw'r broses, mae'n bwysig bod OECMs yn cael eu hymgorffori yn ymateb Cymru i ymrwymiadau’r GBF a ddylai sicrhau canlyniadau gwirioneddol o ansawdd uchel er lles bioamrywiaeth na fyddant yn feichus nac annymunol.

Archwiliodd y grŵp sawl ardal posibl, ond yn ôl yr arwyddion cynnar, ychydig iawn fyddai'n bodloni'r holl feini prawf i fod yn OECM. Mae hyn yn awgrymu bod angen i'r ardaloedd yn gyntaf fodloni 'safonau' OECM.

Mae angen gweithredu ar frys i roi mecanweithiau a mesurau diogelu ar waith i fynd i'r afael â'r heriau i OECMs, a thrwy hynny alluogi ardaloedd posibl fodloni'r holl feini prawf gofynnol erbyn 2030. Mae'r rheini'n cynnwys trefn lywodraethu fydd yn para i'r hirdymor, mesurau rheoli cadarnhaol, adnoddau, cymhellion i berchenogion tir i'w hannog i gymryd rhan a dulliau monitro priodol. Yn hyn o beth, mae OECMs yn ffocws cyffredin ar gyfer yr holl grwpiau Archwilio Dwfn.

Roedd y grŵp yn cefnogi cydnabod OECMs morol ond nodwyd bod 50% o'r moroedd o amgylch Cymru eisoes wedi'u diogelu trwy ddynodiad statudol. Felly, rheoli bioamrywiaeth yn effeithiol yw prif ffocws 30 erbyn 30 yn yr amgylchedd morol.

Mae NREAs - sy'n canolbwyntio'n benodol ar adfer natur - yn ffordd drosfwaol o roi ffocws i'r gweithredu mewn OECMs, mewn ardaloedd gwarchodedig neu yn y dirwedd ehangach i atal a gwrthdroi'r colledion mewn bioamrywiaeth i gefnogi'r targed 30 erbyn 30. Maent yn ardaloedd enghreifftiol, arddangos neu dreialu posibl i adfer natur ar raddfa fawr ac yn ddolen i bobl a lleoedd trwy weithredu gyda phartneriaid ar draws sectorau. Gellid gwneud hyn drwy gyllid sbarduno gyda nod tymor hwy o sicrhau nawdd hunangynhaliol sy'n cyfuno cyllid cyhoeddus, preifat ac elusennol mewn ffyrdd arloesol fydd yn esiampl i eraill. Fodd bynnag, cysyniad yn unig yw NREAs ar hyn o bryd. Roedd y grŵp arbenigwyr yn teimlo, er bod y syniad yn ddefnyddiol, na ddylid rhoi’r un gwerth iddynt ag i OECMs gyda'u cefndir mwy ffurfiol a'u cydnabyddiaeth ryngwladol.

Fe wnaethom nodi bod angen brys am fuddsoddiad sicr mewn adfer natur, ond nid yw'r dulliau arferol o gyllido tymor byr trwy gystadleuaeth yn gydnaws â'r sicrwydd, cydnabyddiaeth a chydweithrediad hirdymor sydd eu hangen ar OECMs iddynt allu rheoli, llywodraethu a monitro'n effeithiol. Gan na fydd cyllid cyhoeddus ychwanegol neu newydd yn debygol, nododd y grŵp y dulliau cyllido a ddefnyddir mewn gwledydd eraill megis cymhellion treth, ardollau, partneriaethau rheoli, talu am wasanaethau ecosystem, ymddiriedolaethau cadwraeth a chyllid fesul achos. Ymhlith y dulliau o fuddsoddi preifat mewn natur a ddefnyddir yng Nghymru y mae credydau carbon sy'n gysylltiedig â'r cod mawnogydd (RSPB ar y cyd â Llyn Efyrnwy Hafren Dyfrdwy) a chreu/adfer coetiroedd (Ymddiriedolaeth Natur ac Aviva).

Fodd bynnag, mae cyllido adfer natur yn debygol o barhau i fod yn faes anodd, a rhaid datblygu strategaeth i ddatgloi cyllid cyhoeddus a phreifat er lles natur ar raddfa lawer fwy a lawer cyflymach. Gallai OECMs roi rhywfaint o warant ansawdd wrth ddatblygu fframweithiau adnoddau.

Mae'r grŵp yn gwneud pum argymhelliad allweddol yn y cam cychwynnol hwn:

Argymhelliad 1: Bod meini prawf OECM (yn unol â Phenderfyniad CBD 14/8 2 ) a chanllawiau IUCN ar gyfer OECMs1 yn sail i fframwaith Cymreig ar gyfer cydnabod OECMs.

Argymhelliad 2: Wrth gydnabod OECMs, ni fydd ardaloedd gwarchodedig sydd â gwarchod bioamrywiaeth yn brif amcan yn cael eu hystyried oherwydd un o'r meini prawf ar gyfer cydnabod OECMs yw "Maen Prawf A: Nid yw'r ardal yn cael ei chydnabod yn ardal warchodedig ar hyn o bryd."

Argymhelliad 3: Dylid datblygu fframwaith hyblyg sy'n nodi ac yn cydnabod OECMs i ategu a sbarduno ymdrechion presennol dros fioamrywiaeth. Rydym yn cynnig model cyfunol sy'n ymgorffori i) gweithredu o'r brig i lawr i sicrhau bod OECMs yn cael eu defnyddio i helpu i ddarparu adnoddau lle mae eu hangen i ddatblygu rhwydweithiau ecolegol sy'n gweithio ac sy’n hyfyw o safbwynt strwythurol a ii) gweithredu o'r gwaelod i fyny i rymuso perchenogion tir a chymunedau lleol i helpu natur i ymadfer.

Argymhelliad 4: Ni all cydnabod OECM ddigwydd fel proses ar ei phen ei hun. Rhaid iddi fod yn rhan o weithredu ehangach i gefnogi 30 erbyn 30 ac adfer natur yng Nghymru.

Argymhelliad 5: Dylid sefydlu cyfres o NREAs ledled Cymru i dreialu, sefydlu ac dangos ffyrdd arloesol ac effeithiol o adfer natur ar raddfa tirwedd.

Mae'r grŵp yn cynnig rhagor o waith, gan ganolbwyntio ar chwe phrif ffrwd waith: Proses cydnabod a rheoli OECM; monitro a gwerthuso; darparu adnoddau; cydweithredu ac ymgysylltu; rhoi ar waith a NREAs.


1IUCN-WCPA Task Force on OECMs, (2019). Guidance on Other Effective Area-Based Conservation Measures (OECMs). Gland, Switzerland: IUCN. Yn: https://iucn.org/resources/publication/guidance-other-effective-area-based-conservation-measures-oecms

2CBD, (2018). Penderfyniad a fabwysiadwyd gan Gynhadledd y Partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. CBD/COP/DEC/14/8. Ar gael yn: https://www.cbd.int/doc/decisions/cop-14/cop-14-de...


Awduron:
S. J. Ormerod1 | S. Spode2 | H. York3 | G. Hobbs3 | K. Stothard2 | M. Harrison4 | M. Hatton-Ellis3 | J. Little2 | C. Llewellyn5,6 | P. Sinnadurai7 | V. Jenkins8 | T. Birch9,10 | C. Bosley11 | G. Cunningham12 | C. Davies3 | S. Evans13, H. Davies14 | J. Latham3 | P. Pearson15 | A. Robinson16 | A. Rogers17 | R. Sharp9,10 | D. Ward18,19 | P. Wood20

1Prifysgol Caerdydd
2Llywodraeth Cymru
3Cyfoeth Naturiol Cymru
4RSPB Cymru
5AtkinsRéalis Group Inc.
6Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli'r Amgylchedd
7Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
8Prifysgol Abertawe
9Ymddiriedolaethau Natur Cymru
10Cyswllt Amgylchedd Cymru
11Cyngor Sir Fynwy
12Y Gymdeithas Cadwraeth Forol
13Wye and Usk Foundation
14Cynghorydd Amgylcheddol Annibynnol~
15Dŵr Cymru
16 Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
17Partneriaeth Natur Leol Sir Benfro
18North Star Transition
19Tir Natur
20ARUP Group Ltd


Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt