Mae Partneriaeth Natur Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys 26 o bartneriaid ac yn eu plith mae perchnogion tir, sefydliadau anllywodraethol a’r naw o awdurdodau lleol sy’n bresennol yn y parc. Cydweithiodd y Partneriaid wrth lunio cyfres o amcanion ar gyfer y Parc Cenedlaethol ac aethant ati i lansio’u Cynllun Adfer Natur ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn haf 2019 a oedd yn cyflwyno “Dyfodol gyda Natur yn ganolog iddo”. Mae’r Cynllun Gweithredu’n cydnabod y gall pethau mawr ddigwydd ym Mannau Brycheiniog, a’u bod eisoes yn gwneud, ac mae llawer o’r cyfleoedd i adfer natur yn seiliedig ar ecosystemau a chynefinoedd eithriadol eu maint, graddfa ac ansawdd.
Os hoffech wybod mwy ynglŷn â bioamrywiaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ewch i’r wefan ac anfonwch e-bost at Maria (manylion isod) os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw gynlluniau a gweithgareddau.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Cambrian Way
Brecon
Powys
LD3 7HP
Ffôn: 01874 620 410
Ebost: NatureRecovery@beacons-npa.gov.uk
Gwefan: clicwch yma