Cynefinoedd a Rhywogaethau yn Sir Ddinbych
Yn Sir Ddinbych rydym yn ffodus o gael amrywiaeth o gynefinoedd pwysig ar garreg ein drws – o rostiroedd grug i dwyni tywod yr arfordir, o goetiroedd i laswelltiroedd calchfaen – ac mae’r rhain yn cynnal casgliad o rywogaethau. Mae’r prif rai’n cynnwys y grugiar ddu, y pathew, llyffant y twyni a madfall y tywod. A dyma’r unig fan yng Nghymru ble ceir blodyn y sir – briwlys y calch.
Partneriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Mae Sir Ddinbych yn rhan o Bartneriaeth CGBLl Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n dwyn ynghyd waith bioamrywiaeth yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r Bartneriaeth yn uno sefydliadau pwysig, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â sefydliadau lleol ac unigolion sydd â diddordeb. Rydym yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.
Prosiectau Bioamrywiaeth
Rydym yn cynnal amryw o brosiectau bioamrywiaeth gyda gwahanol bartneriaid. Mae rhai prosiectau cyfredol yn cynnwys gwella cynefinoedd ar gyfer llygoden bengron y dŵr ar Afon Chwiler, adfer meryw ar Fryniau Prestatyn, rheoli jac y neidiwr a darparu blychau nythu ar gyfer y dylluan wen.
Parc Gwledig Loggerheads
Fford y Ruthin
Yr Wyddgrug
CH7 5LH
Ffôn: 01824 712762
Ebost: joel.walley@sirddinbych.gov.uk
Gwefan: clicwch yma