Natur yn Sir Fynwy

Ffurfiwyd Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy a Chasnewydd i ddarparu grŵp sy'n gweithredu ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol i rannu arferion gorau ac adnoddau er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl a bywyd gwyllt.

Llun gan Sali Palmer

Amdanom ni

Er bod Sir Fynwy a Chasnewydd yn Awdurdodau gwahanol iawn, mae ganddynt hefyd lawer o gynefinoedd, rhywogaethau a ffactorau economaidd-gymdeithasol cyffredin sy'n siapio eu cynefinoedd naturiol a lefelau gwydnwch eu hecosystemau. Mae llawer o bobl o'r farn bod Casnewydd yn awdurdod trefol, gyda'i threftadaeth ddiwydiannol, ei dociau a phoblogaeth ddwys canol y dref. Fodd bynnag, mae 75% o'r awdurdod mewn gwirionedd yng nghefn gwlad, ac mae llawer o'r nodweddion ecolegol pwysicaf wedi eu rhannu â Sir Fynwy, megis Lefelau Gwent, Afon Wysg a Choed Gwent.

Mae Casnewydd wedi cynnal partneriaeth bioamrywiaeth lwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Mae adeiladu ar y llwyddiant hwn a chyfuno i greu partneriaeth ar y cyd ledled Sir Fynwy a Chasnewydd yn galluogi'r bartneriaeth i rannu gwybodaeth a chyfuno adnoddau i gyflawni ar raddfa tirwedd a sicrhau'r manteision mwyaf posibl i fioamrywiaeth. Mae cydgysylltwyr y bartneriaeth yn rhan o Gynghorau Sir Fynwy a Chasnewydd.

Llun gan Sali Palmer

Ein Nodau

Diogelu a gwella cynefinoedd lled-naturiol presennol ar draws Sir Fynwy a Chasnewydd, a lle y bo'n addas creu cynefinoedd lled-naturiol newydd

Nodi rhywogaethau sy'n bwysig yn lleol a'r camau sydd eu hangen i'w diogelu

Cynyddu ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt lleol a ffyrdd y gall pobl gael mynediad at natur gan annog pobl i gymryd rhan mewn cadwraeth

Dylanwadu ar weithgareddau rheoli cadwraeth, rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor ar arferion gorau

Llun gan Lewis Thomson

Sut ydyn ni'n mynd i'w gyflawni

Cefnogi gwaith partneriaeth rhwng sefydliadau neu unigolion i sicrhau'r manteision mwyaf posibl

Coladu gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwys allweddol i gadwraeth yn Sir Fynwy

Cefnogi a datblygu prosiectau sy'n cyfrannu at nodau'r Bartneriaeth

Rhoi cyngor ar bolisi a chyfrannu at greu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur leol

Cyswllt

Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Fynwy

Cydlynydd PNL
PNL Sir Fynwy

Ffon: 01633 644850
Ebost: LocalNature@monmouthshire.gov.uk

  • Ymunwch â'n rhestr bostio ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a newyddion ar natur leol
  • Dod yn aelod o grŵp cadwraeth natur leol, fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent neu Monmouthshire Meadows
  • Ymunwch â grŵp "Cyfeillion" ar gyfer parc lleol neu safle bywyd gwyllt, cysylltwch â ni i weld beth sydd yn agos atoch chi
  • Anogwch fywyd gwyllt yn eich gerddi, mae Lucy wedi rhoi rhai awgrymiadau ar YouTube i'ch rhoi ar ben ffordd
  • Cefnogi newidiadau rheoli yn eich ardal leol drwy roi sylwadau ar y newidiadau cadarnhaol a welwch

Wedi Gweld Rhywbeth Diddorol?

Gall golygfeydd achlysurol o unrhyw fywyd gwyllt fod yn werthfawr os byddwch yn eu cofnodi nhw. Ffordd syml o wneud hyn yw defnyddio system gofnodi ar-lein SEWBReC, sef neu drwy lawrlwytho Ap LERC Cymru i'ch dyfais symudol.

Mae cofnodion yn helpu i achub bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt sy'n rhan o'n hecosystem a rennir.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn edrych ar gofnodion ar gyfer eich ardal ar wefan Aderyn.

Dyma ddetholiad o rai o'r safleoedd lle gallwch weld natur yn Sir Fynwy a Chasnewydd

Gwarchodfa Natur Allt-yr-ynn, Casnewydd – mae Allt-yr-ynn yn cefnogi coetir a dolydd hynafol. Mae'r coetir yn gartref i bron i 50 rhywogaeth wahanol o aderyn, ac mae 7 rhywogaeth mamaliaid wedi'u cofnodi ar y warchodfa, ynghyd â madfallod, brogaod a nadroedd y gwair. Gwyddom fod gleision y dorlan yn defnyddio’r tri phwll yn y warchodfa, a bod ystlumod yn eu defnyddio nhw fin nos i hela am bryfed uwchben yr wyneb.

Dolydd y Castell, y Fenni – Yng nghanol y Fenni, rheolir y dolydd wrth ochr Afon Wysg gan ddilyn dulliau traddodiadol o reoli dolydd sydd ar orlifdir. Mae'r caeau'n cael eu tyfu ar gyfer gwair ac yna pori gwartheg. Mae'r afon yn cynnig cyfleoedd gwylio bywyd gwyllt gwych, gydag ystlumod liw nos a gwenoliaid duon yn yr haf.

Y Pedwar Loc ar Ddeg, Rogerstone – Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 o lociau ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Nid yw'r rhan hon o’r gamlas bellach yn weithredol, ond mae'n cynnig lleoliad gwych ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, yn ogystal â chipolwg diddorol iawn ar hanes y safle.

Coed Neuadd Goetre, ger y Fenni – Coetir bach o goed ffawydd ger Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu sy'n swyno ymwelwyr â charped o glychau'r gog yn y gwanwyn a lliwiau hyfryd yr hydref yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae hwn yn gartref i lawer o rywogaethau adar a gellir ei ddefnyddio fel dechrau taith gerdded gylchol ar hyd y gamlas i weld mwy o fywyd gwyllt.

Parc Gwledig Rogiet, Rogiet – Wedi'i adfer o hen gilffyrdd rheilffordd yn y 1990au, mae'r parc gwledig bellach yn fosaig prydferth o gynefinoedd llawn blodau sy'n darparu cyfoeth o gynefinoedd i infertebratau. Mae tegeirian bera a thegeirian y wenynen wedi’u cofnodi yma.

Parc Sant Julian - Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Sant Julian yn ofod agored mawr rhwng Heol Christchurch a Ffordd Caerllion. Mae’r cyfeiriad hysbys cyntaf at y safle fel 'Y Parc a Pharc Sant Julian' yn dyddio'n ôl i 1583 pan gyfeiriwyd ato fel parc ceirw canoloesol. Nodwyd poblogaeth ffyniannus o wenyn y clafrllys yn ddiweddar ar y safle hwn – sy’n rhywogaeth brin iawn.

Mae Sir Fynwy yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships CymruSir Fynwy Partneriaeth PNL logo

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt