Crynodeb gweithredol
Er mwyn cefnogi adferiad natur, datblygodd Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru gyfres o gamau gweithredu ar y cyd. Dewiswyd y targed 30 wrth 30 fel ffocws strategol i ystyried ble a sut y gellid cyflymu camau a thrwy hynny warchod a rheoli o leiaf 30% o'n tir, dŵr croyw a'n moroedd yn effeithiol o ran bioamrywiaeth erbyn 2030. Mae’n un o blith nifer o dargedau sy’n rhan o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF).
Mae fframweithiau monitro a fframweithiau tystiolaeth fforddiadwy ac effeithiol yn hollbwysig i olrhain ein cynnydd tuag at y targed 30 wrth 30 a’r uchelgais natur-bositif mwy hirdymor. Mae’r fframweithiau hyn yn sail i benderfyniadau ac maent yn galluogi dull rheoli addasol sy’n angenrheidiol i greu ecosystemau cadarn a all addasu i bwysau ehangach, fel newid hinsawdd. Mae angen i'r fframweithiau hyn gael eu llywio gan arfarniad o anghenion data, gan adeiladu ar arferion da a setiau data sy'n bodoli eisoes, a nodi'r hyn sydd ei angen yn y dyfodol. Byddwn yn creu cyfleoedd ar gyfer gwell cydweithredu, rôl gynyddol i wyddor dinasyddion a gwneud gwell defnydd o ddatblygiadau technolegol.
Sefydlwyd y grŵp arbenigol monitro a thystiolaeth Archwilio Dwfn (y grŵp) ym mis Mai 2023 mewn ymateb i argymhellion Archwilio Dwfn Bioamrywiaeth 2022.
Cyfarfu'r grŵp yn fisol i:
Tynnwyd aelodaeth o Lywodraeth Cymru, asiantaethau, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, gan ddod â meysydd allweddol o arbenigedd technegol, gwaith polisi a darpariaeth ynghyd.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu barn y grŵp arbenigol ac yn amlinellu'r cynnydd tuag at yr argymhelliad monitro a thystiolaeth yn yr Archwiliad Dwfn. Gwnaed gwaith y grŵp o dan y saith thema ganlynol:
Mae'r adroddiad yn archwilio'r themâu a drafodwyd, y cynnydd a wnaed hyd yma a'r argymhellion sy'n dod i'r amlwg, ac yna'r camau nesaf.
Man cychwyn cychwynnol ar gyfer gwaith oedd deall yr amrywiaeth eang o fonitro sy'n cael ei wneud yng Nghymru er mwyn helpu i lywio'r dull gweithredu tuag at y targed 30 wrth 30 a nodi cyfleoedd.
Archwiliodd y grŵp ystod o fodelau cysyniadol i sicrhau bod gan unrhyw fframwaith y potensial i fynd i'r afael ag anghenion tystiolaeth ar ystod o raddfeydd wrth ystyried egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) a'r gyrwyr a'r pwysau sy'n effeithio ar yr amgylchedd.
Dewiswyd ystod o fetrigau posibl yn seiliedig ar fesuradwyedd posibl, cywirdeb manwl, cysondeb a sensitifrwydd. Fe'u rhannwyd yn dri maes, pob un â rôl benodol i'w chwarae wrth werthuso:
Cyflawni: sicrhau ein bod yn glir dros gyrraedd targed tri.
Olrhain: darparu map clir o gynnydd wrth gyflawni ar draws ystod o agweddau ar darged tri.
Sicrwydd Canlyniadau: sicrhau bod canlyniadau'n cynhyrchu'r effaith a ddymunir.
Nodwyd problemau a heriau tystiolaeth a fyddai'n effeithio ar gyflawni, mae'r rhain yn gofyn am waith datblygu pellach cyn y gellir cynhyrchu opsiynau wedi'u costio.
Mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys y canlynol:
Mae'r grŵp yn nodi yn Nhabl 1 y fframwaith monitro a argymhellir i werthuso targed tri ac yn Nhabl 2 y ffynonellau tystiolaeth a argymhellir sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni targed tri. Efallai y bydd gan y metrigau a awgrymir oblygiadau gwahanol ar draws y parthau amgylcheddol, nid yn unig o ganlyniad i'r ffordd y mae prosesau ecolegol yn gweithio mewn amgylcheddau gwahanol ond hefyd o ganlyniad i hanes casglu tystiolaeth yn yr amgylcheddau hyn.
Tabl 1: Fframwaith monitro a argymhellir i werthuso cyflawni targed 3.
Tabl 2: Ffynonellau tystiolaeth a argymhellir sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni targed 3.
Byddai sefydlu cymuned ymarfer i gynyddu cydweithredu a goruchwylio a chydlynu darpariaeth y ffrydiau gwaith yn cefnogi gweithredu'r fframwaith. Datblygodd y grŵp egwyddorion allweddol i lywio'r camau nesaf wrth eu cyflawni. Y gobaith yw y bydd yr egwyddorion hyn, ynghyd â'r fframwaith a argymhellir, y meysydd datblygu a'r cydweithio arfaethedig yn cyfrannu at y map llwybr ar gyfer 2030.
Yn ystod y trafodaethau , nodwyd nifer o egwyddorion sy'n dod i'r amlwg ac fe'u crynhoir isod.
Rhannu data galluogi:
Mae sicrhau bod data digonol effeithiol ar gael yn allweddol i alluogi darparu gwybodaeth ar lawr gwlad a chynllunio ar lefel genedlaethol. Mae sicrhau bod egwyddorion FAIR yn cael eu mabwysiadu yn ein data yn allweddol h.y. y gallu i ddod o hyd iddo, hygyrchedd, y gallu i ddefnyddio a chyfnewid, a’i ailddefnyddio. Mewn rhai achosion, bydd angen i hyn gael ei gefnogi gan arbenigwyr pwnc i alluogi defnydd effeithiol.
Tracio cynnydd:
Gall newid ecosystemau gymryd amser, fod yn gymhleth ac yn aml mae'n heriol. O ystyried materion o'r fath, bydd angen i ni sicrhau bod ein metrigau yn ddigon sensitif i ddechrau dangos newid cynnar i helpu i fapio a deall cynnydd. Bydd tracio o'r fath hefyd yn galluogi cyfathrebu'r llwybr at gyflawni.
Mae cydnabyddiaeth ar y cyd bod angen i gyflawni fod o fewn cyfyngiadau cyllidol tynn ynghyd â'r cyfyngiadau amser ymarferol sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Fodd bynnag, mae cyflenwi yn golygu costau a bydd angen adnoddau priodol.
Cydnabod targed tri fel rhan o gyfres o dargedau:
O ystyried y gyfres o dargedau a osodwyd o dan y GBF, mae'n synhwyrol peidio â rhoi sylw i darged tri ar wahân ond fel rhan o gyfres ehangach o dargedau, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar weithredu neu ganlyniadau gan anelu at gyflawni gweledigaeth 2050.
Awdur(on):
C. Davies1 | D. Lloyd1 | K. Stothard2 | S. Spode2 | J. Skates2 | K. Wade2 | D. Allen1 | T. Hatton-Ellis1 | M. Camplin1 | R. Lucas3 | J. Bailey4 | K. Medcalf5 | C. Cheffings6 | J. Davies7 | R. Price7 | A. Rowe8 | S. Smart9 | R. MacDonald-Lofts10 | J. Hawley10 | A. Smith11 | M. MacDonald11 | F. Burns11 | K. Boughey12 | D. Hill13 | M.Rhydderch1 | H. York1
1Cyfoeth Naturiol Cymru
2Llywodraeth Cymru
3Prifysgol Aberystwyth
4Cymdeithas Ecolegol Prydain
5Environment Systems Ltd.
6Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
7Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
8Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru
9Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
10Cyswllt Amgylchedd Cymru
11RSPB
12Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod
13Cyngor Abertawe
Argymhellion cychwynnol Grŵp Arbenigol Monitro a Thystiolaeth 30 wrth 30 Cymru
PDF 130 KB Iaith: Cymraeg
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Cais am fformat gwahanol.