Cyflwyniad

Dyma enghreifftiau Caru Gwenyn ardderchog i’ch ysbrydoli ac i’ch helpu wrth ichi greu eich prosiect eich hun. Ewch ati i ddarganfod sut y cafodd camau eu rhoi ar waith a’r hyn mae pobl, sefydliadau a chymunedau yn ei wneud ar draws y pedair thema: Bwyd, Llety Pum Seren, Rhyddid rhag Plaladdwyr a Hwyl.

Caru Gwenyn Cletwr

Mae Cletwr yn gaffi a siop gymunedol arobryn, sydd hanner ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.

Mae gwirfoddolwyr o’r gymuned yn rhedeg grwˆp garddio sy’n cynnal a chadw’r tir o amgylch yr adeiladau.... darllen mwy

Grŵp Natur Gwenfô

Grwˆ p cymunedol o wirfoddolwyr lleol yw Grwˆ p Natur Gwenfô.

Rydyn ni’n gofalu am ddôl fawr ac wedi plannu ac yn cynnal pum perllan gymunedol. Mae gennym welyau o ferwr dwˆ r a llain ar gyfer pryfed peillio.... darllen mwy

Y Prosiect Wellbeeing a’n Perllan-Our Orchard

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

Ynghyd â’n prosiect Ein Perllan-Our Orchard yn Ysbyty Prifysgol Llandochau, rydym hefyd wedi sefydlu’n prosiect Wellbeeing.... darllen mwy

Gerddi Bro Ddyfi Gardens

Gan ddefnyddio garddio a gweithgareddau cysylltiedig, mae Gerddi Bro Ddyfi (www.gerddibroddyfigardens.co.uk) yn darparu lle cymunedol therapiwtig i bawb yn ardal Bro Ddyfi, ac yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o eithrio cymdeithasol....darllen mwy

Canolfan Crefftau’r Goedwig

Prosiect Adfer Blodau Gwyllt Lleiniau Ymyl y Ffordd Sir Ddinbych

Mae’n bosibl i ymylon ffyrdd fod yn adnodd amgylcheddol gwych gan ddarparu : blodau ar hyd y tymor ar gyfer pryfed peillio; cynefin nythu ar gyfer cacwn a gwenyn unig; gorchudd ar gyfer mamaliaid bach; cynefin ar gyfer nifer o infertebratau; cysylltiad, yn enwedig gyda gwrychoedd dan reolaeth, rhwng cynefinoedd eraill megis coetiroedd, gwlypdiroedd, cyrsiau dwˆ r, rhostiroedd a gweundiroedd....darllen mwy

Mynwent Eglwys y Santes Fair, Y Waun

Mae gwirfoddolwyr mynwent Eglwys y Santes Fair wedi dangos sut mae troi mynwent yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt. Ers 2009, maent wedi bod yn gwella amgylchedd naturiol a nodweddion hanesyddol ym mynwent yr Eglwys, a hynny wrth sicrhau fod y lleoliad yn parhau i fod yn daclus ac yn ddeniadol. Yn 2019, ymunon nhw â'r cynllun Caru Gwenyn gan ymroi i helpu pryfed peillio..... darllen mwy

Ysgol Gynradd y Garth, Maesteg

Mae Ysgol Gynradd y Garth, Maesteg, wedi datblygu prosiect o'r enw ‘Blas ar Fêl’. Bellach, mae dau gwch gwenyn yn yr ysgol a chant eu rheoli gan ddau aelod o staff sydd wedi hyfforddi fel gwenynwyr. Mae’r cychod yn gymorth i’r plant ddeall pwysigrwydd gwenyn, a pham ein bod ni’n ddibynnol arnynt i beillio planhigion a chnydau..... darllen mwy

Caru Gwenyn yn Ysgol y Glannau

"Mae angen i bobl ddysgu i garu gwenyn, yn hytrach na’u casáu. Maen nhw’n aruthrol o bwysig i ni, gan eu bod yn peillio ein cnydau. Mae gan y cynllun Caru Gwenyn enw perffaith ar gyfer gwella ymwybyddiaeth a newid barn pobl.'' (Ria, un o ymgyrchwyr ecolegol Ysgol y Glannau).... darllen mwy

Gwlâu Blodau Cyfeillion yr Happy Valley

Mae Happy Valley yn barc sydd wedi’i leoli ar Ben y Gogarth, Llandudno, Conwy. Mae Cyfeillion Happy Valley (facebook.com/FriendsOfHappyValley) yn grwˆ p o breswylwyr lleol sy’n gwirfoddoli i wella’r parc sy’n lleoliad hamddena gwerthfawr i breswylwyr ac ymwelwyr. I gefnogi pryfed peillio, crëodd y Ffrindiau brosiect o’r enw Gwlâu Blodau Happy Valley, dderbyniodd wobr Caru Gwenyn yn 2018... darllen mwy

Tai Tarian - Gweithio er dyfodol cynaliadwy

Yn 2018, penderfynodd Tai Tarian ymuno â’r fenter Caru Gwenyn yng Nghymru. Tai Tarian yw un o'r darparwyr tai cymdeithasol mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddynt dros 9000 eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn rheoli dros 450 erw..... darllen mwy

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt