Cyflwyniad

Ers 1900, mae'r DU wedi colli 20 rhywogaeth o wenyn, ac mae 35 arall yn cael eu hystyried o dan fygythiad o ddiflannu. Adroddodd Buglife Cymru yn eu Hadroddiad o Wenyn dan Fygythiad , a gyhoeddwyd yn 2018, bod saith rhywogaeth o wenyn wedi'u colli o Gymru, fod pum rhywogaeth yn wynebu perygl o ddiflannu ac mae llawer o rywogaethau eraill wedi lleihau yn sylweddol. Mae glöynnod byw, pryfed hofran a llawer o rywogaethau o wyfynod hefyd yn prinhau ledled Cymru.

Gall monitro ein helpu i fesur newidiadau a rhoi mwy o hyder i ni o ran sefydlu tueddiadau ym mhoblogaethau pryfed peillio. Mae gwneud gwaith monitro parhaus ar bryfed peillio yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'u statws, achosion unrhyw ddirywiad a lle mae ein gweithredoedd yn cael effaith.

Wales Threatened Bee Report

Cynllun Monitro Pryfed Peillio'r DU

Nod PoMS yw cyfuno dadansoddiadau gwell o gofnodion hirdymor ag arolygon systematig newydd. Mae angen eich help arnynt i sefydlu sut mae poblogaethau pryfed peillio'n newid.

Ewch i'w tudalen we i gael gwybod sut i gynnal arolwg systematig syml o'r enw Flower-Insect Timed Count (cyfrif FIT).

Polli:Nation

POLLI-NATION

Defnyddiwch ddeunyddiau adnodd Polli:Nation i helpu eich ysgol i gynnal arolwg Peidiwch ag anghofio uwchlwytho eich cofnodion ar wefan OPAL


Chwilio am wenyn unigol

 Wool Carder Bee - Liam Olds

Yn yr haf, cerwch i chwilio am gardwenynen y pannog (Anthidium manicatum). Mae llawer o hwyl i gael drwy ei gwylio yn patrolio tiriogaethau o gwmpas blodau ac yn hela pryfed eraill. Mae'n hawdd iawn dod o hyd iddi gan ei bod bob amser yn ymweld â blodyn yr ardd o'r enw clust yr oen. Nid yw'r rhywogaeth hon o wenyn wedi'i chofnodi'n iawn yng Nghymru, felly mae cyflwyno cofnodion yn cyfrannu at ein gwybodaeth wyddonol.

www.bwars.com/content/anthidium-manicatum-wool-carder-bee-survey

Colletes_hederae - Liam Olds

Yn yr hydref, cerwch i chwilio am gardwenynen yr eiddew (Colletes hederae). Mae'n hawdd iawn i'w hadnabod gan ei bod yn ymweld â'r eiddew blodeuol yn unig, pan nad oes gwenyn unigol eraill o gwmpas. Mae'n ddiddorol gan ei bod yn cytrefu’n araf yng Nghymru drwy Ddyffryn Hafren felly gellir monitro ei chynnydd ledled Cymru drwy edrych ar y map dosbarthu ar-lein ar safle BWARS. Eto, mae hyn yn cyfrannu at ein gwybodaeth wyddonol ar y wenynen.

www.bwars.com/content/colletes-hederae-mapping-project

Mae yna lawer o ddigwyddiadau eraill lle gallwch chi ymuno i helpu i gyfrif a chofnodi pryfaid peillio.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt