Beth yw Wythnos Natur Cymru?

Mae Wythnos Natur Cymru’n dathlu ein natur anhygoel, ac rydym yn gofyn i bobl edrych, mwynhau a gwerthfawrogi'r cyfoeth o fflora a ffawna sydd o'n cwmpas.

Mae yna natur o bob lliw a llun – a’r cyfan yn arbennig yn ei ffordd ei hun. Mawr a bach, mawreddog a chyfarwydd, o'r dant y llew diymhongar i'r dderwen fawreddog, bwrlwm pryfed mewn gerddi a dolydd, y bwncath sy’n esgyn fry a ffefrynnau’r bwrdd adar, bele cyfrin y coed, ystlumod nos, llyffantod, madfallod a bywyd rhyfeddol y pyllau – mae natur o'n cwmpas ym mhobman.

Beth sy'n digwydd yn ystod Wythnos Natur Cymru?

Dros 10 diwrnod, mae llu o bobl a sefydliadau yn dod at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau'r natur sydd o'n cwmpas yng Nghymru. Gallwch wneud hyn fel unigolyn neu fel teulu neu ymuno â digwyddiad Wythnos Natur Cymru a gynhelir i ddarganfod natur yn eich milltir sgwâr chi.

Cafodd Wythnos Natur Cymru ei rhoi ar waith yn 2002. Caiff ei dathlu’n flynyddol ac mae’n llawn o ddigwyddiadau bywyd gwyllt a gydlynir gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae Wythnos Natur Cymru yn bosibl diolch i sefydliadau sy'n gyfeillgar i natur sy'n cynnal digwyddiadau a thrwy gyfranogiad Partneriaethau Natur Lleol, cymunedau, ysgolion, busnesau ac unigolion.

Orange tip - Alun Williams

Cwm Rhaeadr - NRW_

Puffin Alun Williams

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt