A hoffai’ch grŵp neu’ch mudiad chi ddatblygu prosiect amgylcheddol? Os felly, gall Buddsoddi yn Natur Cymru eich cyfeirio at adnoddau, cymorth a chyllid!
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Buddsoddi yn Natur Cymru (yn flaenorol Environet Cymru) sy'n cefnogi unrhyw grŵp cymunedol neu fudiad trydydd sector sydd am ddechrau neu ddatblygu prosiect amgylcheddol. Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth a gwybodaeth dros y ffôn a gallwn eich cyfeirio at adnoddau i'ch helpu i ddechrau neu gryfhau gweithgareddau amgylcheddol.
Mae Buddsoddi yn Natur Cymru yma i gefnogi staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr unrhyw grŵp cymunedol neu fudiad trydydd sector yng Nghymru sydd am ddechrau prosiect amgylcheddol neu ddatblygu prosiect sydd eisoes yn bodoli ymhellach.
Mae pobl yn dechrau prosiectau amgylcheddol am sawl rheswm - gwarchod bywyd gwyllt; creu neu wella mannau gwyrdd lleol; lleihau biliau ynni neu ailgysylltu â byd natur. Yn aml, mae'r prosiectau hyn yn cynnig buddion mawr i sgiliau, llesiant a chynhwysiant cymunedol - yn ogystal ag i gyfrif banc mudiad. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn helpu Cymru tuag at ei hail Nod Llesiant - Cymru Gydnerth gydag ecosystemau iach gweithredol a'r gallu i addasu i newid.
Mae cymunedau a chyrff trydydd sector eisoes yn chwarae rhan allweddol yn codi ymwybyddiaeth o rai o'n heriau amgylcheddol mwyaf, ac yn gweithredu arnynt, heriau megis y newid yn yr hinsawdd, colli rhywogaethau a defnydd anghynaliadwy o adnoddau. Maent hefyd yn ffurfio ffynhonnell ardderchog o wybodaeth, syniadau a dysg a all helpu i ysbrydoli a chefnogi eraill i ddatblygu gweithgareddau amgylcheddol hefyd.
Nod Buddsoddi yn Natur Cymru yw rhannu a hyrwyddo'r ddysg hon drwy rwydweithio, digwyddiadau rhanbarthol a chymorth arlein ac ar y ffôn. Gyda'n gilydd, gall hyd yn oed camau bach, gyda'r cyngor a'r cymorth cywir, gael effaith enfawr felly dechreuwch arni heddiw!
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi trobwynt yn natblygiad cynaliadwy Cymru. Er mwyn creu'r Gymru a Garem mae angen i fudiadau hybu ein hadnoddau naturiol yn ogystal â hyrwyddo pŵer y bobl. I fynd i'r afael â'r pynciau mawr hyn rydym wedi creu pecynnau cymorth hwylus i'ch helpu i gymryd camau positif i wella Cymru, yn awr ac at y dyfodol...
Mae'r awgrymiadau a geir yma yn rhai syml i'w rhoi ar waith a byddant yn:
Felly rydych am roi help llaw i'r amgylchedd ond yn ansicr sut i ddechrau arni?
Mae gwirfoddoli amgylcheddol yn ffordd wych o gefnogi'r blaned wrth roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned leol ac mae yna lawer o gyfleoedd a all weddu i'ch ffordd o fwy.
Mae yna gannoedd o weithgareddau ar gael i chi gymryd rhan ynddynt ond sut y gwyddech ba rai sy'n addas i chi?
Nod y pecyn cymorth hwn yw'ch helpu i benderfynu pa agweddau ar wirfoddoli amgylcheddol sy'n apelio fwyaf atoch yn seiliedig ar eich sgiliau, eich diddordebau a'ch amgylchiadau. Mae'r pecyn wedi'i rannu'n themâu gwahanol a nodir nifer o brosiectau enghreifftiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch rôl ddelfrydol, p'un ai ydych wrth eich bodd yn bwydo'ch cymuned, yn giamstar ar gyfrifiadur, eisiau gwella pryd a gwedd eich stryd, yn dwli ar fyd natur, yn mwynhau cadw'n heini, neu eisiau gwneud ffrindiau newydd. Pa weithgareddau bynnag a ddewiswch fe fyddwch yn helpu i wella ein hamgylchedd yn awr ac i genedlaethau'r dyfodol!
Os hoffech wneud mwy dros y blaned cymerwch gip ar yr adran Mynd Ymhellach i gael syniadau ar gyfer rhoi hwb gwyrdd i'ch bywyd bob dydd. Cliciwch yma i weld y Gwirfoddoli Amgylcheddol Pecyn Cymorth
Am fwy o weithgareddau natur, edrychwch ar ein adnoddau 'Cofnodi Byd Natur'.
Does dim dwywaith na fyddai'n well gan y rhan fwyaf ohonom weithle gyda mwy o wyrddni a chyfle i fwynhau ychydig o le i fyd natur. Ond sut ydym yn darbwyllo eraill sydd efallai'n poeni bod hyn yn gostus, yn golygu llawer o waith cynnal a chadw ac yn ddim byd mwy na 'rhywbeth bach neis i'w gael'?
Adnodd 'Gwneud Eich Rhan Dros Gymru Wydn Buddsoddi yn Nature Cymru, a gynhyrchwyd ar y cyd ag Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yw newid y credoau hyn drwy ymchwil ac ystadegau ynglŷn â'r buddion i iechyd a llesiant o gael gweithle mwy cyfeillgar i fyd natur, gan gynnwys llai o salwch a gweithlu mwy cynhyrchiol a chreadigol!
1. Eich Cyfrifoldeb Dros Gymru Wydn - Beth Gallwch Wneud
2. Sut i Wneud Gwahaniaeth - Cyflawni Cymru Wydn
3. Camau Syml Er Mwyn Cyflawni - Cymru Wydn
4. Bywyd Gwyllt Cymru - Ble i Ffeindio Ysgogiad
5. Rydych Chi yn Ran o Ecosystem - Cysylltu gyda Natur
Mae'r canllaw Buddsoddi yn Nature Cymru 'Buddsoddi ym Myd Natur' wedi'i lunio gan edrych ar yr effeithiau negyddol yr ydym efallai'n eu cael yn ddiarwybod ar fyd natur.
Mae'n egluro hefyd y camau syml, ymarferol, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, y gallwn eu cymryd i Helpu Bywyd Gwyllt i Ffynnu.
Mae'n egluro yn ogystal sut y gallwch ddylanwadu ar eraill a gwneud mwy yn eich grŵp neu'ch mudiad drwyddo draw drwy Gynnwys Byd Natur yn Eich Polisi Amgylcheddol.
Ydych chi'n colli allan ar deimlo'n dda? Edrycha ein hanimeiddiad 'Natur yn y Gweithle' ar rym byd natur i hybu llesiant yn y gweithle.