Mae bioamrywiaeth yn dylanwadu'n fawr ar gymeriad ein tirwedd a phrofiad y bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. Caiff y sir ei chlodfori'n haeddiannol am ei hamgylchedd naturiol sy’n cynnwys twyni tywod arfordirol godidog, aberoedd tawel, dyffrynnoedd coediog serth ac ucheldiroedd garw. Trwy lawer o weddill y sir ceir rhwydwaith o gynefinoedd sy'n cynnal bioamrywiaeth: nentydd ac afonydd, coetir, gwrychoedd a glaswelltir sy'n llawn rhywogaethau. Mae môr a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Gaerfyrddin hefyd yn gyforiog o rywogaethau, gan gynnwys llamhidyddion harbwr. Lle bu pyllau glo a diwydiant trwm ar un adeg, mae hen safleoedd diwydiannol erbyn hyn yn gallu ffynnu ac yn llawn bywyd gwyllt. Mae gerddi mewn trefi a phentrefi yn gynyddol bwysig i fywyd gwyllt gan fod cynefinoedd naturiol mewn mannau eraill yn cael eu colli neu’n diraddio.
Mae'r amrywiaeth o rywogaethau a gofnodwyd yn y sir yn adlewyrchu'r ystod amrywiol o gynefinoedd sy’n bod yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â gallu rhywogaethau i addasu i amrywiaeth o amodau. Mae rhai rhywogaethau yn gyffredin ac eraill yn llawer mwy prin, gan ddibynnu ar gynefin penodol i oroesi.
Darllenwch fwy am fioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yma
Mae’r Bartneriaeth yn nodwedd unigol ar ein hardal ni ac ers dros 20 mlynedd mae wedi darparu’r unig gyfle lleol, mae’n debyg, i sefydliadau cadwraeth, ecolegwyr a chofnodwyr rwydweithio, rhannu profiadau, a datblygu prosiectau mewn partneriaeth. Mae'r sefydliadau cadwraeth unigol sy’n rhan o’r Bartneriaeth yn ffurfio sbectrwm eang o arbenigedd ar ystod eang o rywogaethau a chynefinoedd (gan gynnwys ein bywyd gwyllt gorau a’r lleiaf adnabyddus).
Cysylltwch â chydlynydd bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin i ddarganfod mwy am Bartneriaeth Natur Leol Sir Gaerfyrddin a sut y gallwch chi helpu natur yn Sir Gaerfyrddin
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Sir Gaerfyrddin yn canolbwyntio ar wytnwch ecolegol gyda chysylltedd fel thema ganolog. Mae hyn yn rhan o weledigaeth i adfer a chreu rhwydweithiau cynefinoedd sydd wedi'u cysylltu'n well yn y sir, yn ogystal â rhwydweithiau o rannu gwybodaeth er mwyn llywio gweithredu, a hynny gan ystod o gyfranogwyr. Mae amgylchedd naturiol gwydn y sir yn cyfleu’r dyhead am Sir Gaerfyrddin iach, diogel a chynaliadwy yn economaidd.
Mae Cynllun Ymateb Cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yn seiliedig ar amcanion y cynllun cenedlaethol sy'n mynd i'r afael â'r materion sy'n gyrru'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac er mwyn cefnogi adferiad:
Bydd Partneriaid Natur Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda'i gilydd i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn Sir Gaerfyrddin sy'n adlewyrchu amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru a'r cyfleoedd a nodwyd yn Natganiad Ardal y De Orllewin. Rhaid inni ystyried yr hyn y gall unrhyw bartneriaeth ei gyflawni'n rhesymol a ble mae'r heriau a'r cyfleoedd. Bydd hyn yn dylanwadu ar strwythur unrhyw gynigion, yn arwain gosod amcanion lleol realistig ac yn helpu canolbwyntio ar y mannau hynny lle mae modd cymryd y camau mwyaf effeithiol.
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur yn Sir Gaerfyrddin 2024 yn asesiad iechyd o’r sefyllfa o ran cynefinoedd a rhywogaethau Sir Gaerfyrddin, a bydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer cadwraeth natur ar draws y sir. Bydd yn llywio ac yn targedu darpariaeth, ac yn llinell sylfaen ar gyfer Adroddiadau ar Sefyllfa Byd Natur yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad wedi’i lunio gan Bartneriaeth Natur Leol Sir Gaerfyrddin sy’n amlygu rôl hollbwysig Partneriaethau Natur Lleol yng Nghymru. Mae’r Adroddiad hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda’n gilydd, ar draws pob sector o gymdeithas a busnes i gyflawni cymdeithas sy’n gyfoethog o ran natur ac sydd o fudd i bob un ohonom.
Gallwch lawrlwytho adroddiad cryno neu’r adroddiad llawn drwy ddilyn y ddolen hon
Mae gwaith y partneriaid ynghyd â'r prosiectau y maent yn ymgymryd â nhw, yn sicrhau canlyniadau sy'n helpu i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol ac yn aml mae hyn yn sicrhau buddion lluosog sy'n gwella lles y bobl sy'n byw yma ac yn cyfrannu at economi'r sir.
Os ydym o ddifrif ynghylch adfer natur, mae'n gofyn am i ni i gyd weithredu ac am i sefydliadau ac unigolion weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys perchnogion tir, asiantaethau'r llywodraeth, grwpiau cadwraeth bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant.
Gall pobl, cymunedau ac ysgolion lleol hefyd wneud gwahaniaeth, a swyddogaeth yr holl bartneriaid yw codi ymwybyddiaeth a gweithio gyda chymunedau ar brosiectau sydd o fudd i fioamrywiaeth - a'r bobl sy'n ymwneud â gweithredu'n lleol.
Man cychwyn da yw'r adnoddau “Gwneud Lle i Natur” - fe welwch lawer o awgrymiadau ar sut y gall unigolion, grwpiau a sefydliadau wneud lle i fyd natur a helpu darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer ein planhigion a'n hanifeiliaid.
Mae yna bob amser rywle lle gallwch chi fwynhau natur yn Sir Gaerfyrddin, pa bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi. O Warchodfeydd Natur Lleol i safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, ac mae nifer o'r safleoedd hyn ar agor i'r cyhoedd.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau yn y sir - gallwch weld mwy yma
Canolfan Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd Llanelli
Mosaig 450 erw o lynnoedd, crafiadau, nentydd a morlynnoedd sy'n ffinio â'r morfeydd heli a Chilfach olygfaol y Barri.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las
Mosaig hardd o ddolydd gwair a phorfa llawn blodau gwyllt.
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ar gyrion Llandeilo a'r parcdir cyntaf yng Nghymru i gael ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.
Coetir cymunedol ar gyfer cerddwyr, beicwyr a’r rhai sy’n marchogaeth ceffylau ac sydd â diddordeb helaeth mewn bywyd gwyllt.
Caiff gwarchodfeydd natur eu rheoli gan amrywiaeth o sefydliadau cadwraeth sy'n gweithio yn y sir ac mae gan y mwyafrif ohonynt wybodaeth ar y safle sy'n egluro mwy am y cynefinoedd a'r bywyd gwyllt sydd i’w gweld yno. Mae gan Sir Gaerfyrddin hefyd rwydwaith helaeth o lwybrau troed a theithiau cerdded cefn gwlad ledled y sir.
Cyngor Sir Caerfyrddin
Swyddfeydd Dinesig
Ffordd y Gilgant
Llandeilo
SA19 6HW
Ffôn: 01558 825390
Ebost: Imacho@carmarthenshire.gov.uk
Gwefan: sirgar.llyw.cymru