Mae gan Gonwy gyfoeth o fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar ystod eang o gynefinoedd. Mae’r amrywiaeth o greigiau a phriddoedd, tirffurfiau, agweddau ac uchderau yn cynnal yr un faint o gynefinoedd llednaturiol (sgri Alpaidd, gwelltiroedd, coetiroedd, llynnoedd dŵr croyw, nentydd ac afonydd, aberoedd llanwol a chynefinoedd arfordirol) â’r cynefinoedd sydd wedi’u haddasu mwy megis tir pori parhaol a choedwigoedd conwydd wedi plannu.
Mae pob un o’r cynefinoedd uchod yn cael eu defnyddio gan anifeiliaid penodol megis: eogiaid a brithyllod môr ar Afon Conwy; glesyn serennog prin y Gogarth; telor y coed a gwybedog brith y coetir derw hynafol, y bodaod tinwyn sy’n bridio ar rostiroedd uchel, a’r gylfinir sy’n gaeafu yma a’r piod môr sy’n ymgasglu i fwydo ar wastadeddau llaid Traeth Lafan.
Ceir manylion Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy ddilyn y ddolen isod. Cynllun Dyletswydd Bioamrwyiaeth – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Rydym yn cynnal amrywiaeth o brosiectau bioamrywiaeth gyda gwahanol bartneriaid gan gynnwys cymdeithasau tai, y gwasanaeth tân a’r GIG. Mae rhai o’r prosiectau cyfredol yr ydym yn gweithio arnynt drwy ffrwd gyllido Lleoedd Lleol i Natur yn cynnwys gosod blychau gwenoliaid duon ledled y sir, plannu coed mewn ardaloedd trefol, creu dolydd, gwella mannau gwyrdd cyhoeddus ar gyfer bioamrywiaeth a chynyddu cyfleoedd ar gyfer tyfu bwyd cymunedol.
Ceir rhagor o fanylion am brosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yma.
Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Cyngor Bwrdeistref Siriol
FFordd Conwy
Mochdre,
Conwy
LL28 5AB
Ffôn: 01492 575106
Ebost:Kate Surry
Gwefan: conwy.gov.uk/cefngwlad
Er mwyn cael syniadau ar sut y gallwch helpu natur ewch i Bioamrywiaeth – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect
hwn neu mewn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag un o’n Cydgysylltwyr
Partneriaeth Natur Lleol.