Mae’n anghyffredin gweld crwbanod môr ym moroedd Cymru, ond y crwban morol mwyaf - y crwban môr cefn lledr Dermochelys coriacea - yw'r unig rywogaeth sy'n ymweld â Chymru'n rheolaidd fel rhan o'i gwmpas arferol. Cafodd y sbesimen mwyaf a gofnodwyd erioed ei olchi i draeth Harlech yn 1988 - roedd yn mesur 2.9 metr o hyd ac yn pwyso 961kg. Mae’n unigryw ymhlith ymlusgiaid gan fod ganddo gragen ledr hyblyg a gall godi tymheredd ei gorff, gan ei gwneud yn bosibl iddo oroesi dyfroedd oerach y DU lle mae’n dod i fwydo ar sglefrod môr yn ystod misoedd yr haf.
Mae gan rywogaethau eraill o grwbanod môr gregyn caled ac nid ydynt mor debygol o gael eu gweld yn nyfroedd Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys y crwban môr pendew Caretta caretta, y crwban môr gwyrdd Chelonia mydas, y crwban crwbanod môr gwalchbig Eretmochelys imbricata, crwban môr pendew Kemp Lepidochelys kempii a’r crwban môr pendew melynwyrdd Lepidochelys olivacea. Gall crwbanod môr ifanc gael eu cludo gan geryntau o foroedd cynhesach.
Cafodd ‘Menai’, crwban môr pendew melynwyrdd, ei olchi i’r lan ar Ynys Môn yn 2016, sef yr unig gofnod o’r rhywogaeth hon yn y DU Washed-up rare turtle species confirmed as Olive ridley - BBC News.
Er mai anaml y cânt eu gweld, mae crwbanod môr wedi’u gwarchod yn llym yng Nghymru.
Mae dwy rywogaeth o grwbanod môr wedi'u rhestru yn adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) (y crwban môr pendew a’r crwban môr cefn lledr).
Rhywogaethau o grwbanod môr sydd wedi'u cynnwys ar restr adran 7
Enw'r rhywogaeth | Enw cyffredin y rhywogaeth | Enw Cymraeg y rhywogaeth |
Caretta caretta | Loggerhead turtle | Crwban môr pendew |
Dermochelys coriacea | Leatherback turtle | Crwban môr cefn lledr |
Mae'r holl grwbanod môr y gellir eu canfod yng Nghymru wedi'u rhestru o dan Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
O dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd, mae crwbanod môr (ac eithrio’r crwban môr pendew melynwyrdd) yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, ac maent wedi’u gwarchod yn llym yn y DU rhag cael eu hanafu, eu dal, eu lladd a’u haflonyddu – a rhag dinistrio safle gorffwys neu fridio yn ogystal.