Mae cynnal gweithgaredd neu ddigwyddiad yn Wythnos Natur Cymru’n ffordd wych o ddathlu natur a rhoi eich grŵp cymunedol, sefydliad neu ysgol ar y map!

Gall eich digwyddiad fod yn ddigwyddiad preifat neu'n ddigwyddiad cyhoeddus a gynhelir rhwng 29 Mehefin a 7 Gorffennaf. Gall hyn fod yn daith natur a sgwrs, digwyddiad garddio blodau gwyllt, prosiect celfyddydol, adeiladu cartrefi chwilod, casglu sbwriel, neu unrhyw beth sy'n gysylltiedig â natur!

Ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus gallwch ddewis unrhyw un o'r canlynol sy'n addas i'ch amgylchiadau i rannu eich digwyddiad gydag Wythnos Natur Cymru:

  • E-bostiwch fanylion y digwyddiad fel y gallwn ei roi ar dudalen ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru
  • Os yw eich digwyddiadau wedi'u rhestru ar blatfform digwyddiadau ar y we fel Eventbrite, TicketSource ac ati, anfonwch ddolen at ble mae eich digwyddiadau wedi'u rhestru, a byddwn yn cynnwys y ddolen yn ein hadran digwyddiadau. Mantais hyn yw bod yn siop un stop ar gyfer eich digwyddiadau lle rydych yn rheoli'r amser, y dyddiadau a manylion y digwyddiad a allai newid yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
  • Os yw eich digwyddiadau wedi'u rhestru ar eich grŵp Facebook, anfonwch ddolen i'ch tudalen gymunedol ar Facebook, a byddwn yn cynnwys y ddolen yn ein hadran digwyddiadau. Unwaith eto, mantais hyn yw hysbysu pobl am y manylion diweddaraf os bydd amserlen y digwyddiad yn newid.
  • Os oes gennych adran benodol ar gyfer digwyddiadau ar eich gwefan, anfonwch ddolen i'ch adran digwyddiadau fel y gallwn ei chynnwys yn y rhestr ddigwyddiadau. Fel uchod, mantais hyn yw hysbysu pobl am y manylion diweddaraf os bydd amserlen y digwyddiad yn newid.
Syniad: Cysylltwch â’ch Partneriaeth Natur Lleol i drin a thrafod gweithgareddau a chynllunio a chymryd rhan mewn digwyddiadau.

Ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus gallwch ddewis unrhyw un o'r canlynol sy'n addas i'ch amgylchiadau i rannu eich digwyddiad gydag Wythnos Natur Cymru:

  • E-bostiwch fanylion y digwyddiad fel y gallwn ei roi ar dudalen ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru
  • Os yw eich digwyddiadau wedi'u rhestru ar blatfform digwyddiadau ar y we fel Eventbrite, TicketSource ac ati, anfonwch ddolen at ble mae eich digwyddiadau wedi'u rhestru, a byddwn yn cynnwys y ddolen yn ein hadran digwyddiadau. Mantais hyn yw bod yn siop un stop ar gyfer eich digwyddiadau lle rydych yn rheoli'r amser, y dyddiadau a manylion y digwyddiad a allai newid yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
  • Os yw eich digwyddiadau wedi'u rhestru ar eich grŵp Facebook, anfonwch ddolen i'ch tudalen gymunedol ar Facebook, a byddwn yn cynnwys y ddolen yn ein hadran digwyddiadau. Unwaith eto, mantais hyn yw hysbysu pobl am y manylion diweddaraf os bydd amserlen y digwyddiad yn newid.
  • Os oes gennych adran benodol ar gyfer digwyddiadau ar eich gwefan, anfonwch ddolen i'ch adran digwyddiadau fel y gallwn ei chynnwys yn y rhestr ddigwyddiadau. Fel uchod, mantais hyn yw hysbysu pobl am y manylion diweddaraf os bydd amserlen y digwyddiad yn newid.

Sut i gymryd rhan

Mae’r adran hon yn berthnasol i unrhyw ddarpar gyfranwyr gan gynnwys unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion, eglwysi, mynwentydd, mannau addoli eraill, ynghyd â phartneriaid fel Partneriaethau Natur Lleol ac elusennau amgylcheddol.

Gall eich digwyddiad fod yn un wyneb yn wyneb i’r cyhoedd; yn un preifat i aelodau eich sefydliad; yn un anffurfiol heb fod yn agored i’r cyhoedd neu’n un rhithwir y gall pobl ymuno ag e o bell.

Ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, yn syml trefnwch weithgaredd neu ddigwyddiad y gall pobl gymryd rhan ynddo yn ystod Wythnos Natur Cymru ac yna hysbysebu eich digwyddiad drwy eich rhwydwaith.

Gallwch hefyd drefnu digwyddiad ar gyfer eich gwirfoddolwyr neu eich rhwydwaith mewnol nad yw'n agored i'r cyhoedd. Yn ystod y digwyddiad, rhannwch luniau o'r digwyddiad ac unrhyw greaduriaid rydych chi'n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gweler yr adran uchod ar ffyrdd o rannu eich digwyddiad gydag Wythnos Natur Cymru i ymddangos ar dudalen ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru.

Cofiwch dagio unrhyw negeseuon cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #WythnosNaturCymru. Lawrlwythwch ein pecyn briffio am arweiniad pellach.

Ysgolion

Mae Wythnos Natur Cymru’n ffordd wych o gael disgyblion a staff i ymwneud â natur. Gallwch ddefnyddio gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, neu dir eich ysgol. Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael mynediad i ardal natur, gallwch gynllunio gweithgareddau dysgu ar thema natur yno.

Trwy ddefnyddio'r #WythnosNaturCymru yn eich postiadau cyfryngau cymdeithasol, gall eich ysgol ymddangos yn y dathliad cenedlaethol o natur.

Eglwysi, mynwentydd ac addoldai eraill

Gall tir sy'n gysylltiedig ag addoldai fod yn lleoedd gwych i fyd natur – mae rhai mynwentydd yn cael eu rheoli gyda natur mewn golwg ac nid ydynt wedi cael eu haredig nac wedi cael gwrtaith wedi’i wasgaru arnynt yn eu hanes hir.Yn aml, maent yn cynnwys coed hynafol neu hynod sydd o ddiddordeb natur cyfoethog. Gall yr adeiladau eu hunain fod yn gartref i ystlumod, neu hebogiaid tramor ac maent yn fan ffafriol i lawer o rywogaethau o adar. Yn gyffredinol, maent yn lleoliad gwych i ennyn diddordeb y cyhoedd yn hanes diwylliannol a naturiol eich man addoli.

Gweler yr adran uchod ar ffyrdd o rannu eich digwyddiad gydag Wythnos Natur Cymru i ymddangos ar y dudalen ddigwyddiadau bwrpasol.

Cofiwch dagio unrhyw negeseuon cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #WythnosNaturCymru. Lawrlwythwch ein pecyn briffio am arweiniad pellach.

Elusennau amgylcheddol

Fel partner gwerthfawr Wythnos Natur Cymru, fe'ch gwahoddir i gynllunio a chynnal digwyddiadau yn ystod Wythnos Natur Cymru. Yn ogystal â hynny, byddwn yn cyfeirio pobl at eich gwefan fel y gallant ddysgu drostynt eu hunain am yr holl waith anhygoel rydych chi'n ei wneud a'u galluogi i gael mynediad at adnoddau a digwyddiadau rydych chi'n eu cynnig trwy gydol y flwyddyn.

I fod yn rhan o Wythnos Natur Cymru mae angen i chi drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad lle gall pobl ddathlu natur! Mae rhaglen ddigwyddiadau eich sefydliad neu brosiect yn arbennig o addas gan ei bod yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a’r cyfan sydd angen ei wneud yw dewis digwyddiad(au) sy'n digwydd rhwng 29 Mehefin a 7 Gorffennaf.

Mae sawl ffordd o rannu eich digwyddiadau gydag Wythnos Natur Cymru – gweler yr adran ar frig y dudalen.

Cofiwch dagio unrhyw negeseuon cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #WythnosNaturCymru a helpu i ledaenu'r gair am y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud trwy gydol y flwyddyn. Lawrlwythwch ein pecyn briffio am arweiniad pellach.

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch ni gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru!


Red kite

Adder

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt