Mae gan Gwynedd gyfoeth o fywyd gwyllt ac amrywiaeth o gynefinoedd. Mae arfordir hyfryd Pen Llŷn yn nodweddiadol, gyda'i chlogwyni meddal a'i draethau tywodlyd, ei lonydd cul a chloddiau unigryw. Mewn cyferbyniad llwyr, ceir ucheldiroedd gwyntog sy'n arwain yn ddramatig i lawr i ddyffrynnoedd gwyrdd a choetiroedd hynafol darniog. Mae ein bywyd morol yn amrywiaeth gyfoethog o anifeiliaid, gan gynnwys cwrelau meddal, anemonïau môr, pysgod, octopws a chrancod sy'n poblogi'r riffiau a gwely'r môr o amgylch ein harfordir. Mae stribed arfordirol Gwynedd a chwareli llechi segur yn darparu cynefinoedd ar gyfer y fran goesgoch, y fran brinnaf sy’n maguym Mhrydain. Mae Pen Llŷn, lle credir bod niferoedd y mincod yn gymharol isel o hyd, hefyd yn ardal bwysig i'r llygoden ddŵr. Mae gan Wynedd naw rhywogaeth o ystlum hefyd, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf prin, sydd wedi diflannu o'r rhan fwyaf o'i diriogaethyng ngogledd Prydain.
Mae Partneriaeth Natur Leol Gwynedd yn fenter newydd a ddechreuodd ym mis Ionawr 2020 i helpu i atal colled bioamrywiaeth. Mae wedi’i adeiladu ar sylfeini Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol blaenorol Gwynedd (Natur Gwynedd). Dyma ymateb Gwynedd i Gynllun Gweithredu Adfer Natur Llywodraeth Cymru. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys unigolion, busnesau, cyrff anllywodraethol, cynghorau / grwpiau cymunedol, recordwyr bywyd gwyllt a sefydliadau cyhoeddus.
Mae aelodau cyfredol yn cynnwys
Cofnod (Canolfan gofnodion amgylcheddol lleol)
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
PNL Parc Cenedlaethol Eryri
Ymgynghoriaeth Gwynedd
Cyfeillion Borth y Gest
Cyfeillion Penygroes
Undeb Ffermwyr Cymru
Partneriaeth Dyffryn Gwyrdd
Partneriaeth Ogwen
Rotari Rhyngwladol
Buglife
Y Dref Werdd
Cadwraeth Glöynnod Byw
Bwyd Bendigedig Porthmadog / Porthmadog Bwytadwy Rhyfeddol
Cadw Cymru ’Daclus
Plantlife Cymru
Ffermydd Cymdeithasol a gerddi
Coed Cadw
CADW
Llais y Goedwig
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwynedd (CGAN)
Mae CGAN Gwynedd yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2023. Ei brif amcan yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau a natur, a chynyddu gwerth natur ar draws y Sir.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
Byddwn yn anelu at gyflawni'r nodau hyn trwy gymryd rhan mewn prosiectau sydd eisoes yn bodoli, sy'n cysylltu cymunedau â natur a chodi ymwybyddiaeth trwy greu a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gwneud cyflwyniadau mewn ysgolion. Yn ogystal, byddwn yn creu prosiectau sy'n canolbwyntio'n benodol ar wella gwerth bioamrywiaeth ar draws pob cynefin yng Ngwynedd. Trwy'r prosiectau hyn, bydd y bartneriaeth yn datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur a fydd o fudd i gymunedau a natur. Yna bydd y blaenoriaethau a osodir yn y cynllun gweithredu adfer natur yn bwydo i wella lles cymunedau Gwynedd trwy fioamrywiaeth.
Mae yna lawer o rhywogaethau a cynefinoedd sydd yn unigryw i’r ardal. Heini yw:
Fran Goesgoch
Ystlum pedol isel
Brith y Gors
Llygoden Dŵr
Cerddinen wen
Aderyn-drycin Manaw
Cen gwallt euraidd
Dyfrgi Ewropiaidd
Gwenyn saer maen
Ymhlith y prosiectau cyfredol mae :
Creu dolydd
Creu pwll
Clirio rhywogaethau ymledol
Creu cynefinoedd ar gyfer ystlumod
Coridorau cynefinoedd
Ysgolion gwyrdd
Cynllun rheoli llifogydd Cwm Ogwen
Gweithredu ar gyfer gwenoliaid Caernarfon
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
LL551SE
Ffôn: 07780 486549
Ebost: HywynWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Gwefan: gwynedd.llyw.cymru
Mae Gwynedd yn llawn cyfleoedd i helpu natur, a dyma'r amser perffaith i ddechrau! Man cychwyn da fyddai mynd i'r dudalen adnoddau “Gwneud Lle i Natur” - fe welwch awgrymiadau ar sut y gall unigolion, grwpiau a sefydliadau wneud lle i fyd natur a helpu i ddarparu cynefinoedd hanfodol i blanhigion ac anifeiliaid. Gallwch hefyd gysylltu â'n cydlynydd PNL i weld a allan nhw eich rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r sefydliadau, grwpiau cymunedol neu grwpiau bywyd gwyllt yn eich ardal chi
Morfa Aber - Mae hwn wedi'i leoli ar draeth Abergwyngregyn. Gwarchodfa Natur Leol yw Morfa Aber, lle mae cuddfan adar gyhoeddus. Trwy eistedd ac ymlacio yn y guddfan adar hon, gallwch wylio wrth i heidiau gylfinir, chwiwell a hhwyaid eraill hedfan heibio. Os ydych chi'n lwcus, efallai y byddwch hefyd yn cael cipolwg ar las y dorlan neu ddyfrgi wrth iddynt fwydo yn y pyllau dŵr croyw.
Traeth lafan - Traeth rhwng Bangor a Llanfairfechan, mae'r warchodfa natur leol hon yn cynnwys cymysgedd o gynefinoedd traethlin. Yn ystod llanw isel, mae 2,500 hectar o dywod rhynglanwol a fflatiau llaid i'w gweld. Mae sawl dynodiad cadwraethol arno gan gynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Amddiffyn Arbennig, ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae’n ardal bwysig ar gyfer nifer o rywogaethau, gan gynnwys y gwyach fawr copog, pioden y môr, hwyaid brongoch a llygaid aur.
Morfa Madryn - Yn Llanfairfechan, mae cymysgedd o gynefinoedd gwlyptir yn bennaf - coetir, porfa arfordirol, pyllau dŵr croyw a gwelyau cyrs. Ceir tair cuddfan lle gellir gwylio amrywiaeth eang o adar.
Y Foryd - Wedi'i leoli i'r De-orllewin o Gaernarfon ar hyd yr A487, mae'r Foryd yn fae rhynglanw rhannol gaeedig ar Gulfor Menai. Ar y trai, mae 250 hectar o gynefinoedd tywod a mwd yn dod i’r golwg, maent yn gynefinoedd bwydo pwysig i nifer o rywogaethau adar brodorol ac ymfudol, fel hwyaid yr eithin, rhydwyr, piod y môr, gylfinirod, gwylanod, cornchwiglod a heidiau mawr o hyd at 5,000 o chwiwell.
Lon Cob Bach - Saif yng nghanol tref hanesyddol Pwllheli. Ffurfiwyd tirwedd bresennol y warchodfa natur hon trwy ddraenio darnau mawr o dir o aber afon Rhyd-hir, pan adeiladwyd arglawdd Cob yn y 18fed ganrif. Ehangodd y dref i orchuddio'r rhan fwyaf o'r tir a adferwyd, gan adael porfa wlyb a chors heli i'r de o Lon Cob bach. I'r gogledd o'r ffordd, mae ardal o fwd a gwelyau cyrs a - cynefin pwysig i nifer o wahanol rywogaethau fel glas y dorlan a'r dyfrgi.
Pen Y Banc - Ym Morth y gest- Creigiau arfordirol, cildraethau tywodlyd diarffordd a choetir cymysg. Mae'n safle poblogaidd i deuluoedd yn yr haf. Mae nifer o adar i'w gweld yn yr aber - y gylfinir, y pibydd goecoch a'r gwyach gyddfddu yn y gaeaf, a gellir gweld heidiau mawr o fôr-wenoliaid pigddu yn yr haf. Yn yr hinsawdd fwyn, gellir gweld amrywiaeth o lystyfiant, yn amrywio o rywogaethau rhostir arfordirol fel eithin a grug, hyd at ddraenen ddu, afal surion, bedw a derw. Mae yna nifer o lwybrau trwy'r warchodfa, gan gynnwys llwybr yr arfordir. Gallwch gael mynediad i eglwys y pentref (SH 565 373) ychydig i'r de o'r maes parcio ger yr harbwr.
Parc y Borth - Ar ffordd i mewn i Borth y Gest, mae Parc Y Borth wedi'i leoli'n uchel ar ochr bryn uwchben y bae cysgodol ac mae'n cynnwys coetir derw a dolydd blodau gwyllt. Mae gan y parc rwydwaith helaeth o lwybrau coediog a fydd yn eich arwain at ben y bryn. Yma gallwch chi gael golygfeydd aberoedd Glaslyn a Dwyryd, a rownd i'r de i'r gorllewin heibio cestyll Harlech a Criccieth, ac i Benrhyn Llŷn. Ym mis Mai, efallai y cewch gipolwg ar y gwybedog brith sy'n nythu yma, neu glywed cnocio'r gnocell