Pori yn Rahgori!

Adeiladu pontydd, helpu natur, gwella tirweddau

Pori yn Rahgori!

Mae pori gofalus a phriodol yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd gwyllt yn ffynnu neu'n diflannu'n gyfan gwbl. Gall reoli rhywogaethau ymosodol ac ymledol, cynnal cynefinoedd agored drwy atal llwyni rhag ymledu, a chreu bylchau er mwyn i rywogaethau newydd allu egino.

Yn yr amgylchedd ehangach gall pori gefnogi rheolaeth ar y risg o lifogydd a thanau, gwella mynediad i ofod gwyrdd a bod o fudd i beillwyr.

Pori, Natur a Threftadaeth - Grazing, Nature and Heritage Gweledigaeth PONT yw hybu arferion pori sy'n amgylcheddol gynaliadwy ac yn sicrhau manteision niferus i fywyd gwyllt a phobl nawr ac yn y dyfodol.

Pori yn Rahgori!

Mae PONT yn cynnig:

Cyngor a chefnogaeth ymarferol gyda sefydlu mentrau pori. Mae'n cynnwys help gyda cheisiadau cyllido a datblygu cynlluniau marchnata lleol.

Cefnogaeth i Reoli Adnoddau Naturiol, Cynllun Adfer Natur ac amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Hyfforddiant mewn sgiliau sy'n amrywio o archwilio stoc i farchnata cynnyrch lleol.

Darllenwch eu taflen Pori yn Rhagori'ma.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt