Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan fel unigolyn, grŵp cymunedol, teulu, ysgol, neu gallwch ymuno ag un o'n digwyddiadau partner. Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!

Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!
Yr hyn sy’n bwysig yw mai chi sy’n dewis sut i ddathlu Wythnos Natur Cymru.

Dyma ambell awgrym gwych i fanteisio i’r eithaf ar Wythnos Natur Cymru.

  • Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Instagram Facebook X/Twitter
  • Ewch allan i'r ardd a gweld beth allwch chi ei weld! Os oes gennych chi fwy o amser – gall mynd am dro yn eich parc neu warchodfa natur leol ddatgelu nifer syfrdanol o rywogaethau.
  • Tynnwch lun neu fideo o'r hyn rydych chi'n ei weld a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Tagiwch eich postiadau gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru i fod yn rhan o'r stori a rhannu rhyngweithiadau â grwpiau ac unigolion eraill.
  • Edrychwch ar dudalen ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru am ddigwyddiad yr hoffech fynd iddo.Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir am y digwyddiad i archebu neu os nad oes angen archebu lle dewch draw ar y diwrnod!
  • Ysbrydolwch eich teulu ac aelodau’ch gweithle i gyflawni gweithredoedd ar ran natur.
  • Edrychwch ar ein tudalennau adnoddau i gael awgrymiadau gwych ar sut y gallwch chi helpu natur gyda chamau syml y gall unrhyw un eu gwneud.

Ysgolion

Mae Wythnos Natur Cymru’n ffordd wych o gael disgyblion a staff i ymwneud â natur. Gallwch ddefnyddio gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, neu dir eich ysgol. Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael ardaloedd natur, gallwch gynllunio gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar natur.

Dewch yn ysgol sy’n Caru Gwenyn – gweler yr adran Caru Gwenyn i gael syniadau

Ydych chi'n bwriadu trefnu digwyddiad neu weithgaredd yn Wythnos Natur Cymru?

Poster calendr natur

Edrychwch ar ein tudalen ddigwyddiadau i weld sut y gallwch gymryd rhan.

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch ni gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru!

Bee orchid Sean McHugh

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt