Cyflwyniad

Mae cacwn yn bryfed cyfarwydd, y mae pobl yn hoff iawn ohonyn nhw. Mae’n bleser gwylio’u prysurdeb wrth iddynt hedfan o flodyn i flodyn, gyda’u sŵn suo dwfn.

Ond, yn anffodus, mae cacwn wedi bod yn prinhau oherwydd newidiadau mewn arferion amaethyddol sydd wedi cael gwared â blodau o’r tirwedd i raddau helaeth, sy’n golygu nad oes fawr ddim i gacwn fwydo arno. Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau’r Deyrnas Unedig wedi prinhau’n fawr yn y blynyddoedd diweddar, ac mae dwy rywogaeth wedi darfod o’r tir yn y Deyrnas Unedig er 1940.

Mae cacwn yn perthyn i is-ddosbarth ‘Hymenoptera’ sy’n cynnwys Gwenyn, Gwenyn Meirch, Morgrug, Llifbryfed. Mae gwahaniaethau amlwg rhwng ymddangosiad a bywydau cacwn, gwenyn mêl a gwenyn unig. Mae cacwn yn fwy o ran maint ac yn fwy blewog na gwenyn mêl na gwenyn unig, sy’n golygu eu bod yn gweddu’n berffaith i hinsawdd oerach. Mae nythod cacwn yn fach ac nid ydynt yn storio llawer iawn o fêl, felly maen nhw’n fwy sensitif i faint o flodau llawn paill a neithdar sydd ar gael iddynt fwydo arnynt. Nid yw cacwn yn heidio a dydyn nhw ddim yn ymosodol. Dim ond cacwn benyw sy’n gallu pigo a dim ond os byddan nhw’n teimlo dan fygythiad difrifol y byddan nhw’n gwneud hynny.

Mae cacwn yn chwarae rhan dyngedfennol bwysig na ddylen ni ei chymryd yn ganiataol. Yn ogystal â pheillio amrywiaeth eang o blanhigion gwyllt ar draws y tirwedd, maen nhw hefyd yn peillio’r cnydau sy’n darparu bwyd inni i’w fwyta. Heb eu gwasanaeth peillio nhw, gallai llawer o flodau gwyllt ddiflannu. Byddai cynhwysion allweddol yn ein diet, pethau fel ffa, pys, mafon a thomatos yn fwy anodd eu cynhyrchu ac yn llawer drutach heb gacwn Prydain.

Ble mae cacwn yn bodoli?

Mae tua 250 o rywogaethau o gacwn yn y byd, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt i’w canfod yn hemisffer y gogledd, er bod gan Dde America rai rhywogaethau brodorol, ac mae gan Seland Newydd rai a gyflwynwyd o Brydain.

Mae dwy rywogaeth o gacwn wedi diflannu yn genedlaethol yn y 100 mlynedd diwethaf. Yn yr un cyfnod, mae rhywogaeth newydd, Cacynen y Coed, wedi cytrefu’r Deyrnas Unedig o Ewrop. Mae gan y Deyrnas Unedig felly 24 o rywogaethau cacwn preswyl, ac mae’r BBCT yn gweithio ar brosiect i ailgyflwyno un o’r rhywogaethau sydd wedi diflannu, y Gacynen Blewyn Cwta.

Dim ond wyth rhywogaeth a geir yn gyffredin yn y rhan fwyaf o lefydd. Gwelir cacwn mewn amrywiaeth o gynefinoedd a dylai’r rhan fwyaf o bobl allu eu denu i’w gerddi os oes ganddyn nhw’r mathau iawn o blanhigion sy’n blodeuo.

Mae rhai rhywogaethau yn llai cyffredin a dim ond i’w canfod mewn ychydig o fannau. Er enghraifft, y Gardwenynen Feinlais, nad yw ond i’w chanfod mewn saith ardal yn ne Cymru a Lloegr erbyn hyn. Arferai’r rhywogaeth hon fod wedi’i gwasgaru’n eang ar hyd a lled de’r Deyrnas Unedig, ond mae dirywiad cynefinoedd wedi gweld gostyngiad dramatig yn ei niferoedd yn y rhan fwyaf o lefydd.

Adroddiad Gwenyn dan Fygythiad Cymru

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, ynghyd â nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn gweithio’n ddi-baid i gynyddu cynefinoedd ar gyfer cacwn. Nod yr Ymddiriedolaeth yw cynyddu nifer y glaswelltiroedd blodeuog mewn ardaloedd lle mae rhywogaethau prin megis y gardwenynen feinlais yn byw, yn ogystal â gwella ein gwybodaeth o ddosbarthiad a niferoedd cacwn drwy’r system fonitro genedlaethol, BeeWalk.

Mae prosiectau cadwraeth sy’n ymwneud â chacwn yng Nghymru yn cynnwys:

Gwenyn i Bawb: 2011 – 2014: wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dysgu, Ymgysylltu a Gweithredu oedd themâu creiddiol y prosiect yma a weithredodd ledled y DU. Yng Nghymru, darparodd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn gyngor ac arweiniad mewn perthynas â chynefinoedd ar gyfer dros 40 o safleoedd dros 17,000 hectar, mewn partneriaeth â pherchnogion tir a sefydliadau eraill. bumblebeeconservation.org/prosiectau-blaenorol

Cacwn Gorllewin Cymru: 2016 – 2018: wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a phartneriaid eraill, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cyflawnodd y prosiect ganlyniadau o dan ddau brif ffrwd waith – ‘Skills for Bees’ a ‘Buzzing Communities’. Gan weithredu ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Caerfyrddin, llwyddodd y prosiect i ddarparu ystod o ddyddiau hyfforddi ac arolygu, gan godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a chreu cynefinoedd addas i gacwn gyda grwpiau cymunedol. BWWW-project-page-PDF.pdf (bumblebeeconservation.org)

Calon Wen: Porfa i Beillwyr: 2018 – 2021: gan weithio gydag aelodau o gwmni llaeth cydweithredol Calon Wen, nod y prosiect yma yw ymchwilio i’r buddion i beillwyr, yn arbennig cacwn, yn sgil gwyndynnydd llysieuol a phorfeydd llawn rywogaethau. Gobaith y prosiect yw dangos sut y gall newidiadau syml i sut y rheolir glaswelltiroedd gefnogi cymunedau peillwyr heb aberthu cynhyrchiant wrth ffermio. Calon Wen Pastures For Pollinators - Bumblebee Conservation Trust

Peillio’r Gwastadeddau: 2018 – 2021: mewn partneriaeth â Buglife ac fel rhan o brosiect Lefelau Byw, nod Peillio’r Gwastadeddau yw cydweithio gydag ystod o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth, monitro a gwarchod peillwyr Gwastadeddau Gwent. Bydd ystod o gyngor ymarferol ar gynefinoedd, hyfforddiant a theithiau cerdded tywysedig yn galluogi gwirfoddolwyr i ymgymryd â gweithgareddau gyda’r nod o warchod rhai o’r peillwyr prin sydd i’w cael ar Wastadeddau Gwent. Peillio’r Gwastadeddau — Lefelau Byw

Skills for Bees Cymru: 2021 – 2024: wedi’i ariannu gan Sefydliad Moondance, nod y prosiect hwn yw cynyddu’r ddealltwriaeth o ddosbarthiad a niferoedd cacwn ledled Cymru. I gyflawni’r nod yma, rydym am ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus mewn perthynas ag adnabod rhywogaethau cacwn, dulliau arolygu a chofnodi, ynghyd ag astudiaethau bwrdd gwaith i nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer arolygon o wenyn prin. Y prif nod yw sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr wedi’u grymuso ledled Cymru sy’n gallu cyflwyno data ar gacwn i BeeWalk a chynlluniau monitro eraill. Skills for bees - Bumblebee Conservation Trust

Garddio er lles cacwn

Mae dros un filiwn o erwau o erddi ym Mhrydain, a gallant fod yn achubiaeth i gacwn. Waeth pa mor fach yw eich gardd, gallwch chi helpu drwy ddarparu amrywiaeth o flodau addas i wenyn, llawn paill a neithdar drwy gydol y flwyddyn. Boed yn flwch ffenestr, rhandir neu ardd, fe all plannu blodau sy’n addas ar gyfer gwenyn helpu i gynyddu’r boblogaeth leol o gacwn. Yn gyfnewid, byddant yn peillio ein blodau, ein cnydau, ein ffrwythau a’n llysiau. Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn cynnig llawer o gyngor ar blannu blodau er lles cacwn – ewch i: Garddio er lles cacwn – Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn. Rhowch gynnig ar ein tudalen ryngweithiol Bee Kind, er mwyn gweld pa mor addas ar gyfer gwenyn yw eich gardd chi, a derbyn cyngor ar ba flodau i’w plannu er mwyn gwneud eich gardd hyd yn oed yn well!

Ar hyn o bryd mae 22 rhywogaeth o gacwn i’w cael yng Nghymru. Mae dwy rywogaeth, Bombus subterraneus a B. Distinguendus, wedi diflannu yng Nghymru bellach. Mae Cymru’n lle pwysig i rywogaethau prin, yn enwedig de’r wlad. Mae’r rhain yn cynnwys 5 rhywogaeth a restrir yng Nghynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth a rhywogaethau ‘Adran 7’ â blaenoriaeth – y Gardwenynen Feinlais (Bombus sylvarum), y Gardwenynen Lwydfrown (Bombus humilis), Cardwenynen y Mwsogl (Bombus muscorum), y Gardwenynen Goesgoch (Bombus ruderarius), a Gwenynen Bwm yr Ardd (Bombus ruderatus). Hefyd, mae’r gacynen brin, Cacynen y Llus (Bombus monticola) i’w chanfod ar draws llawer o ucheldir Cymru lle mae digon o gynefin cyforiog o flodau i’w gael. O bryd i’w gilydd hefyd cofnodir y gacynen brin, B.soroeensis. Fodd bynnag, mae rhai rhywogaethau ar gynnydd, yn arbennig rhywogaeth y gog, Bombus rupestris, a’r newydd ddyfodiad, Cacynen y Coed, Bombus hypnorum.

Mae’n debyg mai’r Gardwenynen Feinlais, Bombus sylvarum, yw’r rhywogaeth prinnaf o gacwn yn y Deyrnas Unedig (DU).

Yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd y gardwenynen feinllais i’w gweld ar draws y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr. Ers hynny, mae’r poblogaethau wedi crebachu’n gyflym, ac erbyn hyn dim ond tua 7 poblogaeth wahanol sydd ar ôl. Mae’r poblogaethau hyn i’w canfod yn bennaf yn ne Cymru a Lloegr, lle mae’r cacwn yn dal i ffynnu ar ddolydd a glaswelltir blodeuog. Nid yw poblogaeth mor ynysig yn ddelfrydol oherwydd mae’n gallu achosi mewnfridio ymysg gwenyn sy’n perthyn yn agos, felly rydym yn gweithio gyda’r tirfeddianwyr i geisio creu cynefin a fydd yn amddiffyn y poblogaethau sy’n bodoli’n barod ac yn eu cael i gysylltu â’i gilydd.

Mapiau’n dangos dosbarthiad y gardwenynen feinlas ar draws y Deyrnas Unedig. Mapiau drwy garedigrwydd BWARS (y Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Gwenyn Meirch a Morgrug)


Mapiau’n dangos dosbarthiad y gardwenynen feinlas ar draws y Deyrnas Unedig. Mapiau drwy garedigrwydd BWARS (y Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Gwenyn Meirch a Morgrug)

Mae cacwn yn bryfed cymdeithasol ac yn byw mewn nythod o hyd at 400 o unigolion. Caiff pob nyth ei rheoli gan frenhines a dim ond blwyddyn mae’r nyth yn para. Mae hyn yn wahanol i gychod gwenyn mêl sy’n weithredol am sawl blwyddyn.

  • Yn gynnar yn y gwanwyn mae’r frenhines yn ymddangos o’i gaeafgwsg i gychwyn nyth newydd (1).
  • Ei thasg gyntaf yw magu storfeydd egni felly mae’n hynod bwysig ei bod yn gallu dod o hyd i ddigon o flodau llawn paill a neithdar (2).
  • Ar ôl dod o hyd i safle addas i nyth bydd yn magu ei deorfa gyntaf o wyau. Grŵp o weithwyr benyw yw’r rhain a’u gwaith nhw yw bwydo a meithrin y nythfa (3).
  • Caiff y broses hon ei hailadrodd gydol yr haf ac anaml y bydd y frenhines yn gadael y nyth. Anaml y mae cacwn yn nythu yn yr un man ddwy flynedd yn olynol (4).
  • Tua diwedd yr haf mae’r frenhines yn cynhyrchu epil gwryw, ynghyd â breninesau newydd (5).
  • Ar ôl cyplu mae’r gwrywod yn marw, ac felly hefyd yr hen freninesau a’r gweithwyr. Dim ond y breninesau newydd, sydd wedi’u ffrwythloni, sy’n goroesi i gysgu drwy’r gaeaf a sefydlu eu nythod eu hunain y flwyddyn ddilynol (1).

Anaml y mae cacwn yn nythu yn yr un man ddwy flynedd yn olynol.

Cacwn yng Nghymru


Lluniau a thestun drwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt