Mae gweision y neidr a mursennod yn perthyn i’r is-ddosbarth pryfed a elwir yn Odonata, sy’n golygu ‘safnau danheddog’. Maen nhw’n grŵp hynafol iawn o bryfed pedair adain ac roedd eu hynafiaid yn hedfan 320 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ar adenydd 75cm o led i’r rhywogaethau mwyaf. Mae angen dŵr arnynt i gwblhau eu cylchred bywyd – mae’r cynefinoedd yn cynnwys pyllau dŵr, llynnoedd, nentydd, afonydd, pyllau mewn cors, a llaciau dŵr a chornentydd ar rostir.
Caiff gweision y neidr eu hadnabod fel Anisoptera, sy’n golygu ‘adenydd gwahanol’, a mursennod fel Zygoptera, sy’n golygu ‘adenydd paredig’. Fel arfer mae gweision y neidr (Anisoptera) yn dal eu hadenydd ar wahân pan fyddant yn gorffwys ac mae’u llygaid yn cwrdd yn y canol. Mae eu hadenydd blaen a’u hadenydd ôl yn siâp gwahanol. Mae mursennod yn llai yn gyffredinol na gweision y neidr ac nid ydynt cystal am hedfan. Maent yn dal eu hadenydd gyda’i gilydd pan fyddant yn gorffwys ac mae eu llygaid wedi’u lleoli ar wahân y naill ochr a’r llall o’r pen. Mae eu hadenydd blaen ac ôl yr un siâp. Mae rhai eithriadau i’r rheolau hyn. Mae ychydig llai na 6,000 o rywogaethau o weision y neidr a mursennod ledled y byd ond dim ond 45 o’r rhain a geir yn y Deyrnas Unedig.
Mae 15 rhywogaeth o Fursennod wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn cynnwys 1 rhywogaeth ymfudol brin iawn. Mae 22 rhywogaeth o Weision y Neidr wedi cael eu cofnodi yng Nghymru, yn cynnwys 5 rhywogaeth ymfudol h.y. rhai nad ydynt yn bridio’n rheolaidd yng Nghymru.
Enw gwyddonol |
Enw Saesneg |
Enw Cymraeg |
Lestes sponsa |
Emerald Damselfly
|
mursen werdd
|
(m) = rhywogaeth ymfudol
BDS rhywogaethau gweision y neidr yng Nghymru
Mae’r enwau Cymraeg wedi’u cymryd o’r llyfr 'Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion: 3 - Gwyfynod, Glöynnod Byw A Gweision Neidr', golygwyd gan Duncan Brown, Twm Elias, Bruce Griffiths, Huw John Huws a Dafydd Lewis, rhif ISBN 978-1-84527-259-3.
Mae tri cham yng nghylchred bywyd pob gwas y neidr a mursen. Mae’r wyau’n deor yn larfa (sydd hefyd yn cael ei alw’n nymff), sy’n bwrw’i groen hyd at 18 gwaith cyn ymddangos fel oedolyn. Yn wahanol i bryfed eraill sydd wedi esblygu’n fwy diweddar, nid oes cam chwiler.
Mae teulu’r gweision neidr yn dodwy’u hwyau’n uniongyrchol ar blanhigion yn y dŵr neu ar fwsogl, gwreiddiau neu laid yn ymyl y dŵr. Mae is-deuluoedd y picellwyr, y gweyll a’r gweision gwyrdd yn dodwy’u hwyau’n uniongyrchol i ddŵr drwy hofran a fflicio’u habdomen dros y dŵr wrth ryddhau wyau.
Pan fydd y fenyw yn dodwy wyau, mae mursennodd, picellwyr a gweyll gwryw yn gwarchod y benywod y mae nhw newydd gyplu â nhw. Mae’r gwrywod yn gwneud hynny un ai drwy aros wedi’u huno ‘mewn tandem’ â’r fenyw tra mae’n dodwy, neu drwy aros yn agos at y fenyw tra mae’n dodwy ac erlid unrhyw wrywod sy’n dod i gystadlu amdani.
Ar ôl dodwy’r wyau, mae rhai’n deor o fewn 2-5 wythnos ac mae eraill, sydd wedi cael eu dodwy’n ddiweddarach yn y flwyddyn, yn mynd i saib (tebyg i aeafgysgu) dros y gaeaf. Mae mursennod yn byw o dan ddŵr fel larfae am rhwng 3 mis a 5 mlynedd. Yn ystod yr amser hwn byddant yn bwrw’u croen rhwng 8 a 18 o weithiau er mwyn tyfu.
Mae gweision y neidr, y larfae a’r oedolion, y naill a’r llall yn ysglyfaethwyr ffyrnig, sy’n achub ar eu cyfle. Fel larfae mae eu hysglyfaeth yn cynnwys larfae pryfed, cramenogion, mwydod, malwod, gelod, penbyliaid a physgod bach. Mae gwahanol rywogaethau o larfae yn mabwysiadu strategaethau hela gwahanol; bydd rhai’n mynd ati’n weithredol i hela prae ac fel arfer mae eu lliw yn eu cuddliwio ymysg planhigion dyfrol, tra mae eraill yn helwyr cudd-ymosod, yn dywyllach o ran lliw sy’n caniatáu iddynt gael eu cuddio gan y llaid a’r detritws lle maen nhw’n cuddio yn disgwyl i brae fynd heibio.
Ar ôl tyfu i’w llawn dwf a phan fydd y tywydd yn addas, bydd y larfae’n ymddangos fel oedolion gweision y neidr neu fursennod. Yn y Deyrnas Unedig mae hyn yn digwydd rhwng mis Ebrill a mis Medi, yn dibynnu ar y rhywogaeth. Mae’r ymddangos yn broses lawn perygl. Gall tywydd anffafriol olygu methu ymddangos a bydd y gwas neidr yn marw – mae perygl mawr o du ysglyfaethwyr i was y neidr sydd wedi ymddangos nes bydd yn gallu symud ac ymateb yn iawn. Pan fydd yn barod i ymddangos, mae’r larfa’n dewis rhywbeth addas i ddringo i fyny arno – gallai fod yn coesyn planhigyn sy’n ymestyn i fyny, yn graig neu’n leinin pwll dŵr. Mae’r croen larfal yn hollti gan greu twll yn y cefn (thoracs) ac mae’r gwas neidr yn tynnu’i ben a’i thoracs allan drwy’r dwll hwn. Rhaid iddo ddisgwyl i’w goesau galedu cyn tynnu ei hun allan yn llwyr o’r croen larfal (exuvia). Wedyn bydd y gwas neidr sydd newydd ymddangos yn dal gafael ar y croen larfal gwag neu’r coesyn planhigyn tra bydd yn pwmpio’r abdomen (corff) a’i adenydd i fyny drwy ailddosbarthu’r hylif sydd yn ei gorff. Mae’r gwas neidr yn disgwyl wedyn i’w adenydd galedu digon iddo allu hedfan.
I ddechrau bydd yr oedolyn yn byw oddi wrth ddŵr wrth iddo ddatblygu’i liwiau’n llawn ac aeddfedu’n rhywiol. Mae hyn yn cymryd tua wythnos, a bydd yn treulio’r amser hwn yn bwydo. Mae oedolion gweision y neidr yn bwyta amrywiaeth eang o ysglyfaeth pryfed yn cynnwys mosgitos, gwybed a phryfed, ond byddant hefyd yn bwyta prae mwy fel glöynnod byw a gweision y neidr a mursennod eraill.
Ar ôl aeddfedu, bydd y gwrywod yn dychwelyd i ddŵr lle mae’r rhan fwyaf o rywogaethau yn diriogaethol ac yn amddiffyn ardaloedd o gynefin bridio addas. Dim ond pan fyddant yn barod i gyplu y bydd y benywod yn dychwelyd i ddŵr, i osgoi sylw’r gwrywod. Cyn cyplu, mae’r gwrywod yn tueddu i drosglwyddo’u sberm o segment 9 o’r abdomen i’r organau cenhedlu eilaidd islaw’r 2il segment abdomenol; gwna hyn fel arfer ar ôl gafael mewn benyw, ond gellir ei wneud cyn hynny. Mae geision y neidr gwryw yn defnyddio’u hatodion cynffon (rhefrol) i gydio mewn benywod; mewn gweision y neidr (Anisoptera), mae’r gwrywod yn cydio o amgylch llygaid y fenyw, ond mewn mursennod, mae’r gwryw’n cydio o amgylch gwddw’r fenyw. Unwaith y mae’r gwryw wedi gafael yn y fenyw, maen nhw ‘mewn tandem’, a gallant hedfan yn reit dda wedi’u huno â’i gilydd. Os yw hi eisiau cyplu, bydd y fenyw yn dod â phen ei habdomen i fyny at organau cenhedlu eilaidd y gwryw er mwyn trosglwyddo sberm gan greu siâp ‘calon’ – dyma’r ystum cypladol, sydd hefyd yn cael ei alw’n “olwyn”. Ar ôl cyplu, bydd y fenyw’n dodwy ei hwyau ac mae’r gylchred bywyd yn ailddechrau. Yn y Deyrnas Unedig caiff y rhan fwyaf o’r cylchred bywyd ei dreulio fel larfae dan ddŵr; gall oedolion gweision y neidr fyw am hyd at 8 wythnos, ond ar gyfartaledd ym Mhrydain dim ond 1 – 2 wythnos y maen nhw’n byw.
Darparwyd y testun gan Claire Install, Swyddog Cymru’r BDS
Mae llawer o faterion cymhleth yn effeithio ar reoli cynefin Mursen Las Penfro yn ACA Preseli a’r cyffiniau. Mursen Las Penfro yw’r prif reswm dros ddynodi’r ACA felly mae angen cynnal ei chynefin fel rhan o gyfraith Ewrop. Lluniwyd y ddogfen reoli er mwyn ceisio goresgyn y materion hyn a rhoi arweiniad ar gyfer gwaith i’r dyfodol. Teitl y ddogfen reoli yw’ An Overview of the Management Requirements of the Southern Damselfly (Coenagrion mercuriale-Charpentier) with Recommendations and Suggested Methodology for Habitat Improvement within and near to the Preseli SAC’